Penigamp

Casgliad o wyth o weithgareddau a gemau rhyngweithiol a chyffrous, sydd wedi eu dethol yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg Ail Iaith Cyfnod Allweddol 2 ydy gwefan Penigamp.

Ceir nodiadau athrawon ar gyfer pob gweithgaredd, sy'n egluro sut i chwarae pob gêm ynghyd â'i chysylltiad â'r cwricwlwm. Nodir geirfa ar gyfer pob gweithgaredd, ynghyd â syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r gemau yn yr ystafell ddosbarth.

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Mae pob un o'r gweithgareddau ar y safle wedi eu seilio ar y cwricwlwm cenedlaethol ac maent yn cynorthwyo'r dysgwyr wrth i'w sgiliau iaith ddatblygu.

Help clyweledol

Cliciwch ar y botwm 'Preferences' i glywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel. Nid yw'r dewis yma ar gael yn yr adran 'Gwybodaeth'.

Bar llywio

Ceir bar llywio uwchben pob gweithgaredd, sy'n cynnwys yr opsiynau canlynol:

HafanYn ôl i ddechrau'r gêmDyma ffordd i ddychwelyd i'r brif ddewislen.
Newid iaithNewid iaithSaesneg ydy'r iaith sy'n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob gweithgaredd, ond drwy glicio ar y botwm newid iaith, mae modd newid yr iaith i Gymraeg yn unig, ee ar gyfer athrawon neu ddysgwyr mwy profiadol.
Sain/Dim sainSain/Dim sainMae'r botwm hwn yn diffodd neu'n cychwyn unrhyw gerddoriaeth gefndir neu effeithiau sain o fewn y gweithgaredd, ond yn cadw'r holl gynnwys sain Cymraeg.
HELPHelpMae'r gofynnod yn cynrychioli panel help, sy'n darparu cyfarwyddiadau ar sut i chwarae'r gêm. Gellir newid yr iaith drwy glicio ar y botwm newid iaith ar y bar llywio.
Sgrîn lawnSgrîn lawnMae modd gwylio'r adnoddau ar sgrîn lawn. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon sy'n dymuno dangos y cynnwys ar fwrdd gwyn rhyngweithiol.

Pwy ydy Pwy?

Ydych chi'n gallu dyfalu Pwy ydy Pwy?

Sut i chwarae

Mae'r gêm 'Pwy ydy Pwy?' syml hon yn canolbwyntio ar sgiliau gwrando a darllen yn Gymraeg wrth i ddysgwyr geisio adnabod casgliad o gymeriadau o'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar gardiau adnabod personol. I ddechrau, dylai'r dysgwyr edrych ar ddetholiad o gardiau adnabod. Wedyn, yn seiliedig ar gliwiau ysgrifenedig neu sain, ac yn hwyrach ar gliwiau sain yn unig, rhaid iddynt ddyfalu pwy sy'n cael ei ddisgrifio. Po gywiraf mae'r defnyddwyr, y mwyaf o bwyntiau a enillir. Gellir chwarae yn erbyn y cloc pe dymunir ac mae fersiwn Gogledd Cymru neu De Cymru ar gael. Gellir argraffu tystysgrif bersonol, sy'n nodi enw, sgôr ac amser y defnyddiwr.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Pwy ydy Pwy?

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Ceir datblygiad naturiol o fewn y gweithgaredd hwn, sy'n herio sgiliau ieithyddol drwy gynnig cliwiau ysgrifenedig ynghyd â sain, cyn symud ymlaen i gliwiau sain yn unig. Gan ddefnyddio'r themâu Y Corff/Ffrindiau, mae'r gêm hon yn ymarfer y ffurfiau gramadegol Mae gen i... (NW) a Mae... 'da fi (SW), ac yn canolbwyntio ar yr eirfa ar gyfer disgrifio wynebau a lliw gwallt, yn ogystal ag oed, taldra a dillad. Noder fod dau fersiwn o'r gêm hon ar gael - fersiwn Gogledd Cymru a fersiwn De Cymru.

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Pwy ydy Pwy? yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Fel ymarfer i'w paratoi, gallwch ofyn i'r myfyrwyr ddisgrifio'u hunain, eu ffrindiau neu eu hathrawon, drwy dynnu lluniau o'i gilydd ar gamera digidol er mwyn ymarfer y geiriau a'r strwythurau targed. Mewn parau, gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae Pwy ydy Pwy? ar y cyfrifiadur ac argraffu eu tystysgrifau fel eich bod yn gallu asesu eu canlyniadau.

Nawr, gofynnwch i'r plant greu eu cymeriadau Pwy ydy Pwy? eu hunain. Rhowch y plant mewn parau eto. Heb ddangos dim byd i'r plentyn arall, gofynnwch i un myfyriwr dynnu llun pen a rhan uchaf y corff ac i'r myfyriwr arall dynnu llun rhan isaf y corff a'r traed, gan ychwanegu cyn gymaint o liwiau ac atodion â phosibl. Gludwch y ddau ddarlun at ei gilydd i ddatgelu eu cymeriadau/angenfilod/estroniaid personol etc.

Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu cardiau adnabod gan nodi enw a phriodoleddau eu cymeriad. Dangoswch y lluniau ar y wal a dosbarthwch y cardiau adnabod gorffenedig i bawb yn y dosbarth. Ar gyfer y myfyrwyr llai abl, chwaraewch fersiwn syml o Pwy ydy Pwy? gyda'r athro neu'r athrawes yn galw cliwiau allan. Ar gyfer myfyrwyr mwy abl, gofynnwch iddynt greu cliwiau ar gyfer eu cymeriadau eu hunain a'u galw allan i'r dosbarth/grŵp.

CymraegSaesneg
Mae gen i...I have... (NW)
Mae ... 'da fiI have... (SW)
lliw gwallthair colour
lliw llygaideye colour
lliw croenskin colour
steil gwallthair style
oedranage
taldraheight
dilladclothes
esgidiaushoes
het welltstraw hat
meniggloves
Dw i'n mesur...I measure
CymraegSaesneg
esgidiau uchelhigh heels
cyrliogcurly
brychni haulfreckles
lliw haultan
cadwynchain
clustdlws, clustdlysauearring, earrings
clipiau gwallthair clips
ffrog fershort dress
sach deithiorucksack
crys-chwyssweat-shirt
sgert fershort skirt
mwclisnecklace
Dw i'n gwisgoI'm wearing...

Tic Toc

Dysgwch sut i ddweud yr amser yn Gymraeg gyda help y gwcw grawclyd! Mae hi'n 'amser' chwarae...

Sut i chwarae

Dewiswch naill ai'r adran Ymarfer neu Chwarae.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Tic Toc

Cysyllytiad â'r cwricwlwm

Dyma gêm apelgar a rhyngweithiol i ymarfer sut i ddweud yr amser yn Gymraeg gan ddefnyddio'r thema Yr Amser. Ceir tair lefel yn y gêm hon, sy'n ymarfer y canlynol:


Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Tic Toc yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Anogwch y myfyrwyr i fynd i'r adran Ymarfer yn gyntaf, cyn gweithio drwy'r lefelau gwahanol yn yr adran Chwarae.

Pan ydych chi'n hyderus fod y myfyrwyr yn gallu dweud yr amser, dewch â'r cloc yn fyw yn yr ystafell ddosbarth drwy ofyn i'r plant ddefnyddio eu breichiau i gynrychioli bysedd y cloc.

Dangoswch yr adran Chwarae ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol gan ddefnyddio'r botwm sgrîn lawn, cliciwch ar y botwm sy'n fflachio a gofynnwch i'r myfyrwyr wrando ar y sain. Nawr, dylai'r myfyrwyr symud eu breichiau i gynrychioli'r amser cywir maent newydd ei glywed.

Yn seiliedig ar yr hyn mae'r rhan fwyaf o'r dosbarth yn ei ddangos gyda'u breichiau, gofynnwch i un plentyn symud bysedd y cloc ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyd-fynd â barn ei gyfoedion a derbyn adborth gan y gwcw.

Pe dymunir, gellir dangos y testun fel cymorth ychwanegol drwy glicio ar y botwm 'Dangos y geiriau'.

Caffi Glan Môr

Dewch i weithio yng Nghaffi Glan Môr! Gwrandewch ar beth mae pawb eisiau a rhowch y bwyd iawn iddyn nhw.

Sut i chwarae

Dewch i weithio yng Nghaffi Glan Môr! Mae'r cwsmeriaid eisiau bwyd a diod. Gwrandewch ar beth mae pawb eisiau a rhowch y pethau iawn iddyn nhw. Pan mae cwsmer yn gofyn am fwyd neu ddiod, arhoswch iddo ymddangos, cliciwch ar yr eitem yn gyntaf ac yna ar y cwsmer. Rhowch y pryd cywir a byddwch chi'n sgorio pwynt. Rhowch un anghywir a byddwch chi'n colli bywyd. Noder bod lliwiau'r is-deitlau a'r cymeriadau yn cyd-fynd â'i gilydd.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Caffi Glan Môr

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Gan ddefnyddio'r thema Bwyd a Diod, mae'r gêm hon yn ymarfer y ffurfiau gramadegol Ga i...? a Dw i eisiau...

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Caffi Glan Môr yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Yn seiliedig ar yr eirfa a ddefnyddir yn y gêm, gofynnwch i'r myfyrwyr ddefnyddio'r cyfrifiadur i greu bwydlen sy'n cynnwys lluniau o'r prydau ar werth ynghyd â rhestr brisiau. Argraffwch y bwydlenni a'u laminiadu. Nawr, rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau bach a gofyn iddynt chwarae rôl fel cwsmeriaid a gweinwyr, gan ddefnyddio eu bwydlenni newydd.

Anogwch y myfyrwyr i ffilmio eu dramâu. Gellid ymarfer geirfa ehangach drwy ychwanegu bwydydd eraill, cyfarch a diolch, ac archebu ar ran rhywun arall, ee Mae fy chwaer eisiau...; Mae fy nhad eisiau...; Maen nhw eisiau... yn ogystal â phwyntiau gramadegol, megis os gwelwch yn dda; Dw i ddim eisiau..., achos dw i'n hoffi...; Dw i ddim eisiau..., ond dw i eisiau...; Beth ydych chi eisiau?; Ga i helpu?; Rhywbeth arall?; Ga i ddau/dri/bedwar... etc.

CymraegSaesneg
Ga i...?May I have...?
Dw i eisiau...I want...
dŵrwater
llaethmilk
brechdanausandwiches
cofficoffee
selsigsausages
cyw iârchicken
saladsalad
pwdinpudding
cawlsoup
byrgyrburger
hufen iâ siocledchocolate ice cream
hufen iâ mefusstrawberry ice cream
CymraegSaesneg
hufen iâ fanilavanilla ice cream
ci poethhotdog
teisen lemonlemon cake
sglodionchips
pitsapizza
lemonêdlemonade
ysgytlaethmilkshake
pysgodynfish
cacen siocledchocolate cake
omletomelette
iogwrtyoghurt
sudd orenorange juice
sudd pîn-afalpineapple juice

Fi Fach

Dewiswch eich cymeriad Fi Fach a dysgwch sut i greu brawddegau yn Gymraeg!

Sut i chwarae

Dewiswch gymeriad Fi Fach, yna dewiswch naill ai'r adran Ymarfer neu Chwarae yng Ngêm 1 neu Gêm 2.

Gallwch wrando ar y brawddegau eto drwy symud y llygoden dros y testun. Hefyd, clywir fersiwn y De a fersiwn y Gogledd ar gyfer y trydydd person unigol gwrywaidd (fe/fo).

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Fi Fach

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Er bod y gweithgaredd yn addas ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2, gan ddibynnu ar allu, mae'r iaith yng Ngêm 1 yn fwy addas ar gyfer myfyrwyr 7-9 oed, a Gêm 2 yn fwy addas ar gyfer plant 9-11 oed.


Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Fi Fach yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Gan ddefnyddio'r opsiwn sgrîn lawn ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol, dangoswch i'r dosbarth sut i chwarae'r gêm. Nawr, rhowch y myfyrwyr mewn parau neu grwpiau bach a gofynnwch iddyn nhw edrych ar yr adran Ymarfer yn unig yng Ngêm 1.

Pan ydych chi'n hyderus fod y myfyrwyr wedi dysgu ystyr y geiriau a strwythur y frawddeg, gofynnwch iddyn nhw symud ymlaen i'r adran Chwarae yng Ngêm 1. Yn yr un modd, ac yn dibynnu ar allu a/neu oedran y myfyrwyr, gwnewch yr un peth ar gyfer Gêm 2.

Pan ydych chi'n hapus fod y myfyrwyr yn hyderus yn defnyddio'r gêm rhyngweithiol i greu brawddegau, gofynnwch iddynt greu cardiau fflach i ddyblygu'r rheiny yn Fi Fach, er mwyn creu eu brawddegau eu hunain, heb gymorth y cyfrifiadur. Efallai byddant yn dymuno creu eu brawddegau eu hunain gan ddefnyddio enwau gwahanol sy'n cyd-fynd â'r themâu sy'n bodoli eisoes (ee bochdew, cath, pysgodyn aur ar gyfer y thema Anifeiliaid Anwes). Neu yn hytrach, gofynnwch iddynt greu brawddegau newydd sbon gan ddefnyddio geirfa a themâu cwbl wahanol.

CymraegSaesneg
hoffito like
pêl-droed football
gwylio teledu to watch television
beicioto cycle
siocled chocolate
sglodion chips
ffrwythau fruit
llygodenmouse
cidog
neidrsnake
ysgytlaeth milkshake
anrheg gift, present
esgidiaushoes
iogwrtyoghurt
hufen iâice-cream
hethat
siacedjacket
sgarffscarf
CymraegSaesneg
gitâr guitar
gêm gyfrifiadur computer game
ffilm film
gêm rygbi rugby game
teledu television
ysgol school
parti pen-blwydd birthday party
sinema cinema
prynu to buy
bwytato eat
gwisgoto wear
chwaraeto play
gwylioto watch
myndto go
ddoeyesterday
heddiwtoday
yforytomorrow

Jamie'n Jamio

Mae Jamie'n hoffi jamio ar ei gitâr drydan! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn neu bydd Jamie'n torri tant!

Sut i chwarae

Profwch sgiliau jamio Jamie! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn gyfrifiadur. Os bydd yr ateb yn gywir, bydd Jamie yn jamio i chi. Os byddwch chi'n anghywir bydd Jamie'n torri tant a byddwch chi'n colli bywyd. Bydd y cwestiwn yn ailymddangos ac yn rhoi cyfle i chi geisio eto. Gallwch wrando ar y brawddegau dro ar ôl tro drwy symud y llygoden dros y geiriau.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Jamie'n Jamio

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Gan ddefnyddio'r thema Y Byd o'n Cwmpas, mae'r gêm hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i ymarfer cwblhau brawddegau yn Gymraeg drwy gymharu geiriau gwrthgyferbyniol. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:


Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Jamie'n Jamio yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm isod.

Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar ac, yn ddibynnol ar eu gallu, gofynnwch iddynt chwarae lefel arbennig, neu bob un o'r lefelau yn Jamie'n Jamio. Mae'r cwestiynau wedi'u dewis ar hap, felly os ydynt yn colli eu tri bywyd cyn gorffen y deg cwestiwn sydd ym mhob lefel, anogwch nhw i geisio eto ac anelu am y sgôr uchaf posibl. Bydd hyn yn atgyfnerthu'r patrymau iaith a'r eirfa.

Nawr, rhowch ddechrau nifer o wahanol frawddegau i hanner y dosbarth. Yn ddelfrydol, dylid seilio'r iaith yn y brawddegau ar yr eirfa mae'r myfyrwyr wedi ei dysgu yn y gêm. Rhowch ail ran y brawddegau i weddill y dosbarth.

Gofynnwch i'r myfyrwyr chwilio am bartner gyda hanner arall eu brawddegau. Os oes unrhyw gyfuniadau sy'n creu brawddegau annisgwyl, ac yn gadael rhai gyda brawddegau diystyr, yna awgrymwch eu bod yn ffeindio partneriaid mwy addas fel bod gennych gyflenwad llawn o frawddegau. Gellir ailadrodd y dasg hon mor aml ag y dymunir gyda chynifer o frawddegau ag yr hoffech.

Pan mae'r myfyrwyr wedi llwyddo i gael hyd i hanner arall eu brawddegau, gofynnwch iddynt recordio eu brawddegau cyflawn gyda'u partneriaid. Gofynnwch i'r parau wrando ar eu brawddegau eto ac ysgrifennu ystyr eu brawddegau Cymraeg yn Saesneg. Yn eu tro, gall y parau ddarllen eu brawddegau Cymraeg a Saesneg am yn ail ar goedd i weddill y dosbarth.

Lefel 1
CymraegSaesneg
carioto carry
dysguto learn, to teach
glaw rain
gwyntwind
ar y cyfrifiaduron the computer
CymraegSaesneg
yn yr arddin the garden
gwylioto watch
beicioto cycle
eirasnow
bwytato eat

Lefel 2
CymraegSaesneg
dringoclimb
coedentree
blodynflower
gwisgoto wear
CymraegSaesneg
yn yr hafin the summer
meniggloves
yn y gaeafin the winter
llaethmilk

Lefel 3
CymraegSaesneg
clywais iI heard
rhaglenprogramme
bwytais iI ate
mwynheais iI enjoyed
es iI went
canolfan hamddenleisure centre
nofiais iI swam
CymraegSaesneg
archfarchnadsupermarket
gwyliais iI watched
chwaraeais iI played
cysgais iI slept
stafell welybedroom
ceginkitchen
sâlill, sick

Lefel 4
CymraegSaesneg
sglefrfyrddioto skateboard
prynuto buy
brechdanausandwiches
selsigsausages
chwaersister
tîmteam
bechgynboys
merchedgirls
CymraegSaesneg
rhedais iI ran
yn gyflymfast, quickly
cadwto keep
heinifit
tywylldark
golaulight
prynais iI bought
awyrair, sky

Gair am Air

Ewch air am air gyda'r cyfrifiadur. Faint o eiriau Cymraeg ydych chi'n gallu eu cofio?

Sut i chwarae

Gêm i ymarfer y cof ydy Gair am Air, sy'n helpu myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer geirfa Gymraeg gan ddefnyddio sain, delweddau a geiriau dros bedair lefel. I chwarae'r gêm, rhaid i'r dysgwyr ddewis lefel a thema. Mae'r cyfrifiadur wedyn yn dechrau'r gêm drwy ddewis gair ar hap. Dylai'r dysgwyr ymateb drwy glicio ar y gair mae'r cyfrifiadur wedi ei ddewis. Bydd y cyfrifiadur wedyn yn ailadrodd y gair cyntaf ac wedyn yn dewis gair arall. Rhaid i'r dysgwyr ailadrodd trefn y geiriau. Os ydy'r defnyddwyr yn dewis y dilyniant anghywir, maent yn colli'r gêm.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Gair am Air

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Dyma gêm ryngweithiol a chyffrous, sy'n ymarfer geirfa drwy ddefnyddio 11 o brif themâu ynghyd â 19 o is-themâu ychwanegol. Dyma gyfle gwych i wella sgiliau gwrando, sillafu ac ynganu. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:


Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Gair am Air yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae unrhyw un o'r themâu mewn parau neu ar eu pen eu hunain, er mwyn sicrhau eu bod wedi dysgu'r eirfa berthnasol. Ceir rhestr o'r is-themâu a ddefnyddir yn y gêm isod.

Gellir atgyfnerthu'r eirfa a gyflwynir yn Gair am Air mewn gweithgaredd dosbarth ychwanegol, drwy ddangos llythyren ar gerdyn fflach. Cychwynwch y gweithgaredd drwy weiddi allan ymadrodd yn Gymraeg, ee "Ydych chi'n barod i ddechrau?", "Pawb yn barod?", "1, 2, 3, i ffwrdd â ni!", "Amdani!" etc.

Dylai'r plant nawr ysgrifennu cynnifer o eiriau â phosibl sy'n dechrau â'r llythyren ar y cerdyn fflach. Dywedwch wrth y myfyrwyr fod rhaid galw allan ymadrodd Cymraeg, ee "Barod!", "Dw i wedi gorffen!", "Mae X gair 'da fi!" etc pan maent yn credu eu bod wedi ysgrifennu y nifer uchaf o eiriau. Dyma arwydd i bawb arall fod rhaid stopio ysgrifennu.

Dylai'r myfyrwyr gyfnewid papurau a marcio gwaith ei gilydd. Ceir un pwynt ar gyfer pob gair cywir. Bydd yr enillydd, sef y person gyda'r nifer uchaf o eiriau cywir, yn sgorio dau bwynt ychwanegol, ac nid y person a weiddodd allan fydd o reidrwydd yn ennill.

CymraegSaesneg
Prif liwiauBasic colours
Lliwiau eraillOther colours
Anifeiliaid anwesPets
Anifeiliaid y ffermFarm animals
Anifeiliaid y sŵZoo animals
Ffrwythau a llysiauFruit and vegetables
Bwyd partiParty food
DiodyddDrinks
Dillad hafSummer clothes
Dillad gaeafWinter clothes
CymraegSaesneg
Un i nawOne to nine
Deg i nawdegTen to ninety
Gwyliau a dathluFestivals
Y TywyddWeather
TeimladauFeelings
ChwaraeonSports
Amser hamddenSpare time
Fy ArdalMy Area
TeithioTravel

Clic am Gic

Profwch sgiliau pêl-droed Llew! Gwnewch yn siŵr ei fod yn cadw'r bêl yn yr awyr trwy glicio ar yr ateb cywir.

Sut i chwarae

Gwnewch yn siŵr fod Llew yn cadw'r bêl yn yr awyr trwy ateb y cwestiynau'n gywir. Cliciwch ar yr ateb iawn ar y bwrdd sgorio. Os dewiswch chi'r un cywir, bydd Llew yn perfformio tric a byddwch yn sgorio pwynt. Os ydych chi'n anghywir, bydd Llew yn gollwng y bêl a byddwch chi'n colli bywyd. Bydd y cwestiwn yn ailymddangos ac yn rhoi cyfle i chi geisio eto. Gallwch wrando ar y cwestiynau dro ar ôl tro drwy symud y llygoden dros y geiriau.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Clic am Gic

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Gan ddefnyddio'r thema Chwaraeon, mae'r gêm hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i ymarfer ateb yn garadarnhaol ac yn negyddol yn y Gymraeg. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:


Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Clic am Gic yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Ymarferwch y gwahanol ffyrdd o ateb yn gadarnhaol ac yn negyddol yn Gymraeg gyda'r myfyrwyr, gan sicrhau eu bod wedi dysgu'r eirfa berthnasol ar gyfer y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar ac, yn ddibynnol ar eu gallu, gofynnwch iddynt chwarae lefel arbennig, neu bob un o'r lefelau yn Clic am Gic. Mae'r cwestiynau wedi'u dewis ar hap, felly os ydynt yn colli eu tri bywyd cyn gorffen y 10 cwestiwn sydd ym mhob lefel, anogwch nhw i geisio eto ac anelu am y sgôr uchaf posibl. Bydd hyn yn atgyfnerthu'r patrymau iaith a'r eirfa.

Nawr, gofynnwch i'r grwpiau ysgrifennu cyfweliad chwaraeon ar gyfer sioe deledu, gan ddefnyddio'r iaith maent newydd ei dysgu. Gofynnwch i'r grwpiau actio a ffilmio'r cyfweliadau a'u dangos i weddill y dosbarth.

Enwau CymraegEnwau Saesneg
pêl-droedfootball
pêlball
cwpwrddcupboard
gwisg nofioswimsuit
pwll nofioswimming pool
clwb chwaraeonsports' club
gogls nofioswimming goggles
rasrace
maes chwaraeplaying field
esgidiau pêl-droedfootball shoes
pêl-fasgedbasketball
pêl-rwydnetball
wal ddringoclimbing wall
Berfau CymraegBerfau Saesneg
hoffito like
chwaraeto play
cefnogito support
sglefrioto skate
myndto go
sglefrfyrddioto skateboard
rhedegto run
dringoto climb
gwylioto watch
dawnsio creadigolcreative dancing
mwynhauto enjoy
nofioto swim
eisiauto want

DJ Dawnus

Dyma'ch cyfle i fod yn gynhyrchydd recordiau llwyddiannus! Gwyliwch a gwrandewch wrth i'r DJ fynd trwy'i bethau a helpwch ef i fynd i dop y siartiau.

Sut i chwarae

Dewiswch thema, yna drwy esgus fod yn gynhyrchydd recordiau, darllenwch y brawddegau wrth iddyn nhw ymddangos ar y sgrîn. Rhowch y brawddegau i mewn i'r categori cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod desg gymysgu DJ Dawnus pan fydd y geiriau allweddol yn ymddangos ar y sgrîn. Po fwyaf o atebion cywir a roddir, mwya'n byd o recordiau sy'n cael eu gwerthu gan DJ Dawnus!

Gallwch chi wrando ar y brawddegau ar ddiwedd y gêm, a gwirio'r atebion cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod y sgrîn. Mae'r brawddegau yn ymddangos ar hap bob tro.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd DJ Dawnus

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Dylai'r gêm hon ddatblygu sgiliau darllen, a thrwy ddefnyddio cwestiynau casgliadol mae'n annog plant i gysylltu geirfa o un thema â thema arall. Defnyddir y themâu canlynol yn y gêm hon:


Er bod y gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r iaith a'r cysyniad o gwestiynau casgliadol yn fwy addas ar gyfer dysgwyr 9-11 oed.

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio DJ Dawnus yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau pellach yn seiliedig ar themâu'r gêm:

CymraegSaesneg
siop esgidiaushoe shop
esgidiaushoes
siop farabakery
rôl gawscheese roll
siop ddilladclothes' shop
dathluto celebrate
gwanwyn spring
Rydyn ni'n dathlu...We celebrate...
Dydd Gŵyl DewiSt David's day
Eisteddfod Genedlaethol yr UrddNational Urdd Eisteddfod
Dydd Mawrth CrempogPancake day
hafsummer
Dydd Mawrth CrempogPancake day
Eisteddfod GenedlaetholNational Eisteddfod
diwrnod mabolgampausports' day
hydrefautumn
diolchgarwchthanksgiving
dechrau blwyddyn ysgolstart of the school year
Nos Galan GaeafHalloween
gaeafwinter
NadoligChristmas
Dydd Santes DwynwenSt Dwynwen's day
Dydd Guto FfowcGuy Fawkes' day
CymraegSaesneg
lliwiaucolours
Beth ydy lliw...?What colour is...?
draig CymruWelsh dragon
crys tîm rygbi CymruWelsh rugby team shirt
trwyn clownclown's nose
tywodsand
cennin pedrdaffodils
pyspeas
letyslettuce
gwisgoto wear
meniggloves
cerddedto walk
eirasnow
Dw i angen...I need...
sbectol haulsunglasses
torheuloto sunbathe
mwynhauto enjoy
Dw i eisiau...I want...
diod oercold drink
gwlybwet
cot lawanorak; raincoat
sblasioto splash
cigyddbutcher
cyw iârchicken
selsigsausages
cidog
asgwrnbone
Trending Now