| Statement | Question | Negative |
| I - Mi faswn i'n medru | Faswn i'n medru? | Faswn i ddim yn medru |
| You - Mi faset ti'n medru | Faset ti'n medru? | Faset ti ddim yn medru |
| He - Mi fasai fo'n medru | Fasai fo'n medru? | Fasai fo ddim yn medru |
| She - Mi fasai hi'n medru | Fasai hi'n medru? | Fasai hi ddim yn medru |
| We - Mi fasen ni'n medru | Fasen ni'n medru? | Fasen ni ddim yn medru |
| You - Mi fasech chi'n medru | Fasech chi'n medru? | Fasech chi ddim yn medru |
| They - Mi fasen nhw'n medru | Fasen nhw'n medru? | Fasen nhw ddim yn medru |
Mae hi'n braf heddiw - mi fasen ni'n medru mynd i'r parc.
The weather's fine today - we could go to the park
Mi faswn i'n medru gwneud brechdanau i ni
I could make sandwiches for us
Mi fasai'r plant yn medru chwarae ar y siglen
The children could play on the swing
Mi faset ti'n medru bwydo'r chwadod
You could feed the ducks
| Statement | Question | Negative |
| I - Mi ddylwn i | Ddylwn i? | Ddylwn i ddim. |
| you - Mi ddylet ti | Ddylet ti? | Ddylet ti ddim. |
| he/she - Mi ddylai fo / hi | Ddylai fo / hi? | Ddylai fo / hi ddim. |
| we - Mi ddylen ni | Ddylen ni? | Ddylen ni ddim. |
| you - Mi ddylech chi | Ddylech chi? | Ddylech chi ddim. |
| they - Mi ddylen nhw | Ddylen nhw? | Ddylen nhw ddim. |
Mae hi'n bwrw glaw heddiw. Mi ddylen ni aros yn y ty^.
It's raining today. We should stay in the house.
Mi ddylet ti lanhau'r gegin
You should clean the kitchen
Mi ddylai'r plant dacluso'r teganau
The children should tidy the toys
Mi ddylwn i smwddio'r crysau
I should iron the shirts