Dyma i chi eiriau i'w defnyddio wrth ddisgrifio rhywun.
salw
ugly
pert
pretty (benywaidd/ feminine)
hardd
beautiful
golygus
handsome
tal
tall
byr
short
tew
fat
tenau
thin
ifanc
young
hen
old
Cofiwch fod ansoddair (adjective) yn treiglo'n feddal ar ôl enw (noun) benywaidd. Dyn ni'n dweud merch bert, cath dew.
Mae treiglad meddal ar ôl yn/'n: Mae hi'n bert, mae e'n olygus.
Yn Gymraeg, mae'r ansoddair yn dod ar ôl yr enw (noun) fel arfer. Dyn ni'n dweud dyn ifanc, merch hardd a.y.b. Ond, mae hen yn wahanol. Mae hen yn dod o flaen yr enw. Dyn ni'n dweud hen gi a hen gath. Mae treiglad meddal ar ôl hen.
Dyn ni fel arfer yn dweud hen ŵr a hen wraig yn lle hen ddyn a hen fenyw.