Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolDefodau angladd

Mae bywyd ar ôl marwolaeth yn gysyniad sylfaenol i'r rhan fwyaf o grefyddau. Mae safbwyntiau Iddewig am farwolaeth a bywyd ar ôl marwolaeth yn cynnwys y gred mewn Nefoedd ac Uffern. Fel arfer ceir cysylltiad agos iawn rhwng defodau angladdol Iddewig a'u credoau am fywyd ar ôl marwolaeth.

Part of Astudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Defodau angladd

Mae cysylltiad agos fel arfer rhwng y ffyrdd y bydd pobl grefyddol yn delio â marwolaeth a’r defodau angladdol maen nhw’n eu cyflawni ar y naill law, a’u credoau am fywyd wedi marwolaeth ar y llall.

Mae defodau angladdol yn bwysig iawn oherwydd:

  • maen nhw’n dangos parch i’r meirw ac, mewn rhai crefyddau, yn cynnwys amryw o seremonïau sy’n angenrheidiol yng nghred y bobl i sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i beth bynnag fydd eu bywyd nesaf
  • maen nhw’n rhoi amser i berthnasau a ffrindiau’r ymadawedig alaru a dangos eu galar yn ffurfiol, a hynny yn nhyb rhai pobl yn eu helpu i ddod dros eu colled

Wrth farw, bydd Iddewon yn ceisio dweud y (gweddi) i ddangos eu cred mewn un Duw:

Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
— Deuteronomy 6:4

Pan fydd rhywun yn marw bydd Iddewon yn dweud Kaddish. Gelwir Kaddish yn aml yn weddi angladdol ond gweddi’n moli Duw ydyw hi mewn gwirionedd.

Cyn gynted ag y bydd rhywun yn marw, gwneir paratoadau ar gyfer claddu. Mae’n rhaid iddo ddigwydd cyn gynted ag sy’n bosibl.

  • Caiff y corff ei olchi a’i wisgo mewn tachrichim, amdo gwyn syml. Caiff dynion eu lapio yn eu tallith (siôl weddi) hefyd. Caiff y taseli eu torri oddi ar dallith y dyn i ddangos ei fod bellach yn rhydd oddi wrth y deddfau crefyddol.
  • Rhoddir y corff mewn arch bren blaen a selio’r arch. O amser y farwolaeth tan y claddu, nid yw’r corff byth yn cael ei adael ar ei ben ei hun.
  • Cyn y claddu bydd y galarwyr yn gwneud rhwyg yn eu dillad – keriah yw hyn; mae’n arwydd o’u galar.

More guides on this topic

Trending Now