Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Yr Eglwys ar waithAstudiaeth achos – Shelter Cymru

Mae'r cysyniad o'r 'eglwys ar waith' yn cyfeirio at y cymorth a'r gwasanaethau mae'r Eglwys yn gallu eu darparu i Gristnogion, yn ogystal ag i'r rheiny sydd ddim yn Gristnogion. Mae hefyd yn cyfeirio at sut mae'r Eglwys yn gallu helpu o ran yr erledigaeth ar Gristnogion yn y byd modern.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Astudiaeth achos – Shelter Cymru

Elusen yng Nghymru yw Shelter Cymru, a'u nod yw helpu pobl sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i rywle i fyw.

Eu prif nod yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru amgylchedd sefydlog ac iach i fyw ynddo. Maen nhw'n gweithio gyda phobl ledled Cymru i geisio sicrhau bod pawb yn gallu byw mewn cartref gweddus a diogel.

Arian Ifanc, Abertawe

Prosiect Shelter Cymru wedi'i leoli ym Mae Abertawe yw Arian Ifanc. Mae'n wasanaeth di-dâl sy'n helpu pobl ifanc 16-24 oed gyda'u sgiliau cyllidebu, er enghraifft:

  • sut i gynilo a chynllunio ar gyfer y dyfodol
  • awgrymiadau bob dydd ar gyfer cyllidebu ac arian
  • sut i fenthyca arian, cyngor am fathau o fenthyca a beth sy'n digwydd os ydyn nhw'n methu taliadau
  • cyngor am ddyledion
  • esbonio sgorau credyd a sut i'w gwella nhw
Trending Now