Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

OnglauSwm onglau

Dylet ti fod yn gallu adnabod pedwar math o ongl: ongl lem, ongl aflem, ongl atblyg ac ongl sgwâr. Wrth amcangyfrif maint ongl, dylet ti ystyried pa fath o ongl ydy hi’n gyntaf.

Part of MathemategOnglau

Swm onglau

Mae \({360}^\circ\) mewn tro cyflawn.

Diagram protractor

Mae \({180}^\circ\) mewn hanner tro (llinell syth).

Diagram ongl 360°

Question

Canfydda faint ongl \({z}\):

Diagram ongl 180°

Question

Beth ydy maint ongl \({p}\)?

Diagram swm onglau 360°

Onglau mewn triongl

Mae’r onglau mewn triongl yn adio i \({180}^\circ\).

Onglau mewn pedrochr

Mae’r onglau mewn pedrochr yn adio i \({360}^\circ\).

Mae hyn yn gweithio ar gyfer unrhyw bedrochr. Gelli di roi cynnig ar hyn dy hun gyda darn o bapur!

Trending Now