Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Newid gwledig yng Nghymru – CBACNodweddion ardaloedd gwledig

Mae’r term 'gwledig' yn aml yn cyfeirio at rannau o’r wlad lle mae dwysedd y boblogaeth yn llai. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ardaloedd gwledig wedi bod dan bwysau oherwydd datblygwyr tai, ymwelwyr, a phobl yn symud o’r ddinas i fyw yn y wlad.

Part of DaearyddiaethCysylltiadau gwledig-trefol

Nodweddion ardaloedd gwledig

Mae gwahanol fathau o ardaloedd gwledig, a gallwn eu dosbarthu yn ôl pa mor hygyrch ydyn nhw i’r ardaloedd trefol. Mae’r diagram isod yn dangos hyn. Mae’r ardaloedd yn amrywio o’r , i’r ardaloedd gwledig eithafol (anghysbell).

Model yn dangos sut mae ardaloedd trefol yn cael eu trefnu.

Gallwn ddosbarthu’r mathau o ardaloedd gwledig hefyd yn ôl eu prif nodweddion:

  • Gwyrdd anghysbell - lleoedd gwledig anghysbell ac ynysig sydd â rhwydweithiau ffyrdd gwael. Mae ganddyn nhw lawer o fannau agored gwyrdd a phoblogaethau tenau iawn.
  • Newid cyflym - mae dwysedd poblogaeth yr ardaloedd gwledig hyn yn llai trwchus ac mae nhw’n cynnwys rhai trefi mwy. Mae llawer o bobl sy’n byw yma yn gymudwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd trefol yn hytrach nag yng nghefn gwlad.
  • Hamdden a mwynder - mae rhai o olygfeydd harddaf Cymru, a’r Parciau Cenedlaethol, yn y lleoedd gwledig hyn. Yn aml iawn mae nhw’n anghysbell.
  • Ymddeol i’r arfordir - mae pentrefi a threfi bach glan môr yn atyniadol i bobl sydd wedi ymddeol. Pobl wedi ymddeol yw’r gyfran fwyaf o’r boblogaeth yn y cymunedau hyn.
Tirwedd â phoblogaeth wasgaredig ger Crughywel, Powys. Mae ychydig o adeiladau preswyl i’w gweld yn y blaen, a bryniau gwyrdd a choedwigoedd i’w gweld yn y cefn.
Image caption,
Lleoliad gwledig gwyrdd anghysbell ger tref fechan Crughywel, Powys

More guides on this topic

Trending Now