Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ofn gan Hywel GriffithsNeges ac agwedd y bardd

Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd

Mae prif neges y soned yn cael ei chrynhoi yn y gorchymyn Cofleidiwch yr anwybod. I’r bardd, nid yw pethau gwahanol a dieithr i’w hamau a’u hofni, maent yn bethau gwerthfawr sy'n werth eu cofleidio. Llwydda’r gerdd i’n hatgoffa fod hawl gennym i fyw’n rhydd ac mewn heddwch. Yn debyg i’r gerdd Rhaid peidio dawnsio... mae’r bardd yn erfyn arnom i beidio cael ein caethiwo gan gadwyni llygaid barcud y Llywodraeth. Dylem ofalu nad yw’r cyfryngau yn siapio ein meddyliau a’n barn ar faterion a sicrhau, yng ngeiriau , fod gennym "."

Mae’r bardd o’r farn fod y Llywodraeth yn tynnu ein sylw at fygythiad terfysgaeth er mwyn cuddio materion gwleidyddol eraill megis toriadau a llymder. Mae gwladwriaethau ar draws y byd yn camddefnyddio eu grym i wneud yn siŵr nad yw dinasyddion cyffredin yn rhydd mewn gwirionedd. Teimlo mae’r bardd ein bod yn dieithrio ein gilydd wrth gyfyngu ein hunain i’n cartrefi. Nid yw’n gweld gwerth byw yn ofni marwolaeth.

Trending Now