Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y Stafell Ddirgel gan Marion EamesMarged Owen, Huw Morris a Lisa Roberts

Mae'r nofel hon yn ymdrin â themâu megis caredigrwydd, creulondeb a chasineb, colled a theulu. Mae'n adrodd hanes Rowland Ellis, Crynwyr ardal Dolgellau a'u herlidigaeth.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Marged Owen, Huw Morris a Lisa Roberts

Marged Owen

Y tro cyntaf i Rowland sylwi arni’n iawn yn y nofel ydy pan mae’n golchi’r gwaed oddi ar wyneb Robert Owen. Sylwodd Rowland ynghanol y berw gwyllt ar ei thawelwch a’i threfnusrwydd. Mae Marged yn berson gwahanol i Meg. Mae hi yno hefyd yn nes ymlaen pan mae Siân Morris yn rhedeg yn noethlymun, a Rowland Ellis yn ei hachub. Nid oedd neb wedi sylwi ar Marged Owen, Dyffrydan yn dod i mewn gydag ystên o ddŵr. Cymeriad yn gwneud ei gwaith yn dawel a diffwdan ydy hi.

Wedi marwolaeth Meg, mae Marged Owen yn gefn i Rowland Ellis. Mae perthynas dda ganddi gyda Siân ac Ann: Hi oedd yr unig un a allai drin y plant. Mae ganddi wên oedd yn dechrau yn y llygaid cyn cyrraedd y gwefusau.

Mae’n gymeriad sy’n adnabod pobl yn dda. Mae’n gallu synhwyro bod Rowland Ellis yn dechrau cytuno â’r syniad o symud, bron cyn i Rowland ei hun sylweddoli hynny. Mae o’n meddalu tuag atynt, meddai llais y tu mewn i Farged.

Arwydd o bwysigrwydd y cymeriad erbyn y diwedd ydy bod yr awdur wedi rhoi’r gair olaf iddi: Mae rhin ein bro ni ar fwrdd y llong yna. Y golled... O! Y golled ... o.

Huw Morris

Mae Huw Morris yn wrthbwynt i Ellis Puw fel gwas ym Mrynmawr. Mae’n was da, ond yn un byrbwyll ei dafod. Mae’n gymeriad hunanol, ac o hyd yn ceisio ffordd i wneud ei fywyd ei hun yn well.

Mae’n un sy’n mwynhau tynnu coes, ond nid ydy’n gwybod pryd i dynnu’r llinell rhwng tynnu coes a bod yn greulon. Bob tro yr agorai ei geg roedd ei eiriau fel neidr yn barod i daro.

Dim ond yntau, Huw Morris, oedd â’r llygaid i weld a’r clustiau i glywed. Mae’n gwybod yn iawn pryd i siarad a phryd i fod yn dawel: Weithiau byddai hwyl i’w gael o floeddio’n sydyn nes bod y creadur o’i flaen bron â neidio allan o’i groen. Dro arall fe dalai iddo wylio’n ddyfal heb gael ei weld... Dyma’n union beth y mae’n ei wneud wrth iddo sylwi ar Meg yn cyfri’r arian.

Caiff ei anfon o Frynmawr am gymryd mantais o Lisa Roberts. Ond hyd yn oed wedyn, mae’n ceisio dial ar Rowland Ellis drwy roi gwybodaeth i’r awdurdodau ynghylch y Crynwyr.

Mae’n gymeriad lliwgar, sy’n dod â chyffro i’r nofel.

Lisa Roberts

Dyma un o’r cymeriadau sy’n newid fwyaf yn ystod y nofel. Yn y dechrau cawn olwg arni fel merch sy’n mwynhau pethau fel ffair a gwisgoedd lliwgar. Erbyn diwedd y nofel mae wedi aeddfedu, a hi sy’n edrych ar ôl plant Rowland Ellis, a’r fferm, tra’i fod yn y carchar.

Cawn yr argraff ei bod ychydig yn haerllug ar y dechrau. Barn Malan amdani ydy ei bod hi’n eneth fowld, ddigywilydd.

Mae crandrwydd Brynmawr yn apelio ati. Mae’n sylwi ar y cwrlidau cynnes a glân a orchuddiai’r gwely. Pan mae Ellis yn dod â phecyn iddi oddi wrth Dorcas, ei chwaer, mae’n gweld mai dillad crand sydd ynddo ac mae’n eu gwisgo’n syth, Roedd Lisa wedi gwisgo’r ffedog a chlymu’r ruban yn ei gwallt.

Nid ydy Huw Morris yn hir cyn dangos diddordeb ynddi, ac ar y dechrau mae’n mwynhau’r sylw. Ond cyn bo hir, mae’r chwarae’n troi’n chwerw, a chawn olwg arall ar gymeriad Lisa, y Lisa ofnus ac ansicr ohoni ei hun.

Dau ddigwyddiad sy’n peri i Lisa newid ydy marwolaeth Malan a Dorcas. Mae’n teimlo euogrwydd, ond yn lle mynd yn benisel, mae’n penderfynu bod yn rhaid iddi aeddfedu: Cymenodd ei gwisg, glanhaodd y tŷ drwyddo draw, trwsiodd ddillad y plant, gofalodd am eu bwyd...

Mae penllanw’r newid yn dod pan mae hi a Tomos y gwas yn penderfynu ymfudo, ac yn cymryd y cam dewr o fod ymhlith y criw cyntaf i fynd.

Trending Now