Swyddogaethau system weithredu
Mae’r system weithredu mewn unrhyw gyfrifiadur yn:
- Rheoli’r storfa gynorthwyolPrif storfa ddata cyfrifiadur, hynny yw, y ddisg galed. a perifferolynDyfais sy’n cysylltu â chyfrifiadur, er enghraifft, llygoden, bysellfwrdd, argraffydd neu sganiwr. megis sganwyr ac argraffyddion.
- Ymdrin â throsglwyddo rhaglenni i mewn ac allan o’r cof.
- Trefnu’r defnydd o’r cofY rhan o gyfrifiadur sy’n storio data. rhwng rhaglenni.
- Trefnu amser prosesuYr amser mae’n ei gymryd i brosesydd brosesu mewnbwn a chynhyrchu allbwn. rhwng rhaglenni a defnyddwyr.
- Cynnal diogelwch a hawliau mynediad defnyddwyr.
- Ymdrin â gwallau a chyfarwyddiadau defnyddwyr.
- Caniatáu i’r defnyddiwr gadw ffeiliau mewn storfa gynorthwyol.
- Darparu’r rhyngwyneb rhwng y defnyddiwr a’r cyfrifiadur – er enghraifft, Windows VistaSystem weithredu gan Microsoft. ac OSXFersiwn o system weithredu Mac OS ar gyfer cyfrifiaduron Apple..
- Rhoi negeseuon gwall syml.
Mae’r system weithredu’n seiliedig ar yr un egwyddorion mewn cyfrifiadur mwy, er enghraifft cyfrifiadur prif ffrâm.