Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Alcanau, alcenau a phlastigionProfi am alcenau

Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.

Part of CemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Profi am alcenau

Mae presenoldeb y C=C yn golygu bod yn gallu adweithio mewn mwy o ffyrdd nag . Mae hyn yn golygu y gallwn ni ddefnyddio prawf cemegol syml i ddweud y gwahaniaeth rhwng alcenau ac alcanau.

Hydoddiant bromin oren yw dŵr bromin. Mae’n troi’n ddi-liw wrth gael ei gymysgu gydag alcen. Mae alcenau’n gallu dadliwio dŵr bromin, ond dydy alcanau ddim. Mae’r sioe sleidiau’n dangos y broses hon.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Dau diwb profi o ddŵr bromin browngoch. Ychwanegu alcan at un, ac ychwanegu alcen at y llall.,

Mae’r adwaith rhwng bromin ac alcenau’n enghraifft o fath o adwaith o’r enw adwaith adio. Mae’r bromin yn cael ei ddadliwio oherwydd bod deubromo di-liw yn ffurfio. Er enghraifft:

ethen + bromin → 1,2-deubromoethan

C2H4 + Br2 → C2H4Br2

CH2=CH2 + Br-Br → CH2BrCH2Br

Adweithiau adio eraill alcenau:

  • Gallwn ni ychwanegu hydrogen at fond dwbl C=C. Mae hyn yn ‘dirlenwi’ y moleciwl, a bydd yn troi alcen yn alcan. Er enghraifft: C2H4 + H2 → C2H6.
  • Os ydyn ni’n ychwanegu ager (H2O) at alcen, mae’n ffurfio alcohol. Er enghraifft: C2H4 + H2O → C2H5OH.
Trending Now