Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Arferion IddewigDuw a chelfyddyd

Mae gan bob crefydd wahanol arferion sy'n unigryw i'w ffydd a'i chredoau. Bydd Iddewon yn adrodd y Shema, yn dangos parch i Dduw mewn amrywiol ffyrdd, ac yn gwisgo dillad penodol er mwyn mynegi eu hunaniaeth.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Duw a chelfyddyd

Ystyr y term ‘eilunaddoliaeth’ yw addoli delwedd neu wrthrych sydd wedi’i greu, ac mae hyn yn cael ei ystyried yn bechod mawr mewn Iddewiaeth. Am y rheswm hwn, dydy Duw byth yn cael ei gyfleu mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, ac yn wahanol i nifer o grefyddau eraill, dydy delweddau na cherfluniau o Dduw byth i'w gweld mewn unrhyw synagog neu addoldy Iddewig.

Daw’r ddeddf hon mewn Iddewiaeth o’r ail o’r Deg Gorchymyn.

Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na’r ddaear isod.
— Exodus 20:3-6

D-w

I lawer o Iddewon, mae Duw mor bwysig fel bod rhaid cymryd pwyll wrth ddefnyddio’i enw. Mae enw Duw’n sanctaidd neu’n gysegredig, nid yn , ac felly mae’n wahanol i unrhyw air arall. Defnyddir y gair Duw mewn iaith bob dydd ond i lawer o Iddewon mae’r enw Duw ymhell o fod yn gyffredin.

Bydd llawer o Iddewon yn ysgrifennu D-w, gan hepgor un llythyren. Gwnânt hyn rhag ofn i’r papur y mae wedi’i ysgrifennu arno gael ei niweidio neu ei drin yn amharchus. Mae enw Duw mor sanctaidd i lawer o Iddewon fel na wnânt ddweud nac ysgrifennu ei enw ond mewn ac yn sgroliau’r Torah.

Trending Now