Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Hylosgi tanwyddau a’r triongl tânHylosgi tanwyddau

Mae amryw o danwyddau yn hylosgi, ac mae hi'n bosibl adnabod y cynhyrchion. Mae'r triongl tân yn dangos y tri pheth sydd eu hangen er mwyn i dân losgi. Mae modd defnyddio amryw o ffyrdd i ddiffodd tân. Mae calorimedreg yn cael ei defnyddio i fesur egni.

Part of CemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Hylosgi tanwyddau

Hylosgi cyflawn

Sylweddau sy’n adweithio ag ocsigen i ryddhau egni defnyddiol (ecsothermig) yw tanwyddau. Mae’r rhan fwyaf o’r egni’n cael ei ryddhau ar ffurf gwres, ond mae egni golau hefyd yn cael ei ryddhau.

Ocsigen yw tua 21 y cant o’r aer. Pan mae tanwydd yn llosgi mewn digonedd o aer, mae’n cael digon o ocsigen i hylosgi’n gyflawn.

Ar gyfer hylosgiad cyflawn, mae angen digonedd o aer fel bod yr yn y tanwydd yn adweithio’n llawn ag ocsigen.

Mae tanwyddau fel nwy naturiol a phetrol yn cynnwys hydrocarbonau. Dim ond hydrogen a charbon sydd yn y cyfansoddion hyn. Pan maen nhw’n llosgi’n gyflawn:

  • mae’r carbon yn i ffurfio carbon deuocsid
  • mae’r hydrogen yn ocsidio i gynhyrchu dŵr (cofia fod dŵr, H2O, yn ocsid hydrogen)

Yn gyffredinol, ar gyfer hylosgiad cyflawn:

hydrocarbon + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr

Dyma’r hafaliad ar gyfer hylosgiad cyflawn methan, sy’n cael ei ddefnyddio mewn llosgyddion Bunsen:

methan + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr

CH4 + 2O2 → CO2 + 2H2O

Dyma’r hafaliad ar gyfer hylosgiad cyflawn propan, sy’n cael ei ddefnyddio mewn poteli nwy:

propan + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr

C3H8 + 5O2 → 3CO2 + 4H2O

Mae ethanol, alcohol syml, hefyd yn hylosgi i ffurfio carbon deuocsid a dŵr:

ethanol + ocsigen → carbon deuocsid + dŵr

C2H5OH + 3O2 → 2CO2 + 3H2O

Trending Now