Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Asid sylffwrig a’r broses gyffwrdd [TGAU Cemeg yn unig]Asid sylffwrig – y broses gyffwrdd

Rydyn ni’n defnyddio asid sylffwrig wrth wneud paent, glanedyddion a gwrteithiau. Mae’r broses gyffwrdd yn dangos adwaith cildroadwy sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu asid sylffwrig.

Part of CemegAdweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig

Asid sylffwrig – y broses gyffwrdd

Mae’r broses gyffwrdd, sy'n cael ei defnyddio i wneud asid sylffwrig, yn broses sy’n cynnwys .

Y defnyddiau crai sydd eu hangen i wneud asid sylffwrig yw:

  • sylffwr
  • aer
  • dŵr

Cam un – gwneud sylffwr deuocsid

Yng ngham cyntaf y broses gyffwrdd, mae sylffwr yn cael ei losgi mewn aer i wneud sylffwr deuocsid:

sylffwr + ocsigen → sylffwr deuocsid

S(s) + O2(n) → SO2(n)

Dydy’r adwaith hwn ddim yn gildroadwy – mae (s) yn golygu solid ac mae (n) yn golygu nwy.

Mae’n bwysig peidio â rhyddhau sylffwr deuocsid, oherwydd mae’n cyfrannu at .

Cam dau – gwneud sylffwr triocsid

Yn yr ail gam, mae’r sylffwr deuocsid yn adweithio â mwy o ocsigen i wneud sylffwr triocsid:

sylffwr deuocsid + ocsigen ⇌ sylffwr triocsid

2SO2(n) + O2(n) ⇌ 2SO3(n)

Mae’r adwaith hwn yn gildroadwy. Yr amodau sydd eu hangen yw:

  • fanadiwm(V) ocsid, V2O5
  • tymheredd o gwmpas 450°C (mae’r tymheredd yn cael ei ddewis fel cyfaddawd – mae’n rhoi cynnyrch gweddol a chyfradd adwaith dda)
  • gwasgedd o gwmpas 2 (mae’r gwasgedd uwch yn ffafrio ffurfio SO3, ond os yw’r gwasgedd yn rhy uchel mae’r risg o ffrwydrad yn rhy fawr, o ystyried bod SO3 yn nwy asidig iawn)

Cam tri – gwneud asid sylffwrig

Ar y cam olaf, mae sylffwr triocsid yn adweithio â dŵr i wneud asid sylffwrig:

H2O(h) + SO3(n) → H2SO4(dyfr)

Dydy’r adwaith hwn ddim yn gildroadwy, fel y cam cyntaf – mae (dyfr) yn golygu dyfrllyd neu wedi’i hydoddi mewn dŵr.

Mae ychwanegu sylffwr triocsid at ddŵr yn uniongyrchol yn ecsothermig iawn ac mae’n arwain at ffurfio cymylau o asid sylffwrig. Mae hyn yn beryglus iawn. Yn niwydiant, mae sylffwr triocsid yn cael ei ychwanegu at asid sylffwrig crynodedig iawn i ffurfio hylif cyrydol iawn o’r enw olewm er mwyn lleihau’r risg:

SO3 + H2SO4 → H2S2O7

Yna, caiff dŵr ei ychwanegu at yr olewm i ffurfio asid sylffwrig eto:

H2S2O7 + H2O → 2H2SO4

Trending Now