Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Hafaliadau cydamserolHafaliadau cydamserol: dull algebraidd

Mae pâr o hafaliadau lle mae angen canfod mwy nag un gwerth yn cael eu galw'n ‘hafaliadau cydamserol’. Mae sawl dull y gelli di ei ddefnyddio i’w datrys.

Part of MathemategHafaliadau

Datrys hafaliadau cydamserol trwy’r dull algebraidd

Gelli di ddatrys hafaliadau cydamserol drwy adio’r ddau hafaliad neu dynnu un oddi wrth y llall.

Enw’r dull hwn ydy’r dull algebraidd.

Datrysa’r hafaliadau cydamserol:

\({2x} + {y} = {9}\) \(({1})\)

\({3x} - {y} = {1}\) \(({2})\)

Adia’r ddau hafaliad â’i gilydd ac fe weli di fod yr \({y}\) yn diflannu:

\({3x} + {2x} + {y} - {y} = {9} + {1}\)

Gallwn ni symleiddio hyn i:

\({5x} = {10}\)

\({x} = {2}\)

Mae amnewid y gwerth hwn am \({x}\) yn hafaliad \(({1})\) yn rhoi:

\({4} + {y} = {9}\)

\({y} = {5}\)

Gwiria yn hafaliad \(({2})\):

\({6} - {5} = {1}\) (sy’n gywir)

Felly yr ateb ydy: \({x} = {2}\), \({y} = {5}\)

Question

Datrysa’r hafaliadau cydamserol:

\({3x} + {2y} = {8}\)

\({3x} - {y} = {5}\)

More guides on this topic

Trending Now