Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Rhifau positif a negatifAdio a thynnu rhifau positif a negatif

Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero’n rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.

Part of MathemategRhifau positif a negatif

Adio a thynnu rhifau positif a negatif

I adio a thynnu rhifau dylet ti ddechrau cyfrif o sero bob amser.

Wrth drafod rhifau positif, mae angen cyfrif i’r dde.

Wrth drafod rhifau negatif, mae angen cyfrif i’r chwith.

Defnyddio llinell rif

Llinell rif yn dangos rhifau negatif a phositif

Cyfrifa \({4}-{5}-{3}\)

Dychmyga symud i fyny ac i lawr llinell rif i gyrraedd yr ateb.

Gan ddechrau o sero, mae angen cyfrif i fyny i \({4}\), wedyn tynnu \({5}\), wedyn tynnu \({3}\). Yr ateb ydy \({-4}\).

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Diagram yn egluro rhannu â 1000, Cyfrifo ar linell rif Cyfrifa: 4 - 5 - 3

Question

Cyfrifa \({-2}+{9}-{10}+{6}\)

Dau arwydd

Wrth adio neu dynnu rhifau negatif, cofia pan fydd dau arwydd yn ymddangos nesaf at ei gilydd a bod y ddau’n wahanol, yna mae angen tynnu. Pan fydd dau arwydd nesaf at ei gilydd a bod y ddau yr un fath, mae angen adio:

Adio a thynnu rhifau negatif a phositif

Question

Cyfrifa

a) \({10}+{-7}\)

b) \({4}-{-3}\)

Trending Now