Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Adwerthu – CBACBle mae adwerthu’n digwydd?

Adwerthu yw’r gweithgaredd o werthu nwyddau neu wasanaethau i brynwyr ar gyfer defnydd personol neu deuluol. Mae adwerthu wedi newid llawer yn y 60 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar y dinasoedd a’r trefi lle rydym yn byw.

Part of DaearyddiaethCysylltiadau gwledig-trefol

Ble mae adwerthu’n digwydd?

Mae adwerthu’n digwydd mewn llawer o ardaloedd yn nhrefi a dinasoedd traddodiadol y DU.

Yng Nghaerdydd, mae parciau adwerthu mawr y tu allan i’r dref i’w gweld ar safleoedd fel Croes Cwrlwys ar gyrion y ddinas. Mae canolfannau siopa modern mawr dan do yng nghanol y ddinas, sydd hefyd yn cael ei alw’n ganol busnes y dref (CBD), er enghraifft Canolfan Dewi Sant 2.

Mae yna hefyd nifer o ardaloedd siopa stryd fawr bach, fel y rhai hynny ym maestrefi’r Eglwys Newydd neu yn ardal dinas fewnol Sblot. Yn ogystal, ym mhob man yng Nghaerdydd, mae nifer o fusnesau adwerthu bach, fel siopau cornel neu archfarchnadoedd unigol.

Mae adwerthu hefyd yn digwydd y tu allan i’r ardal drefol. Mewn pentrefi a phentrefannau bach, mae swyddfeydd post neu siopau cyffredinol bach i’w gweld – mae’r rhain yn darparu cysylltiadau hanfodol ag ardaloedd trefol ac yn darparu nwyddau cyfleus hanfodol i bobl leol.

Model defnydd tir yn dangos lleoliad mathau amrywiol o adwerthu yn ninas Caerdydd.
Figure caption,
Braslun o fodel defnydd tir
Trending Now