Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Olew a chracioPwysigrwydd byd-eang olew crai

Mae’r rhan fwyaf o'n tanwyddau a'n plastigion yn deillio o olew. Gallwn ni ddefnyddio distyllu ffracsiynol i wahanu olew crai yn wahanol ffracsiynau.

Part of CemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Pwysigrwydd byd-eang olew crai

Mae cynhyrchu hanfodol i’r economi fyd-eang, gan fod cymdeithas fodern yn dibynnu cymaint ar ddefnyddio olew crai. Dyma rai pwyntiau i’w cofio.

Pwysigrwydd economaidd

  • Cwmnïau olew sy’n rheoli pris olew crai. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw lawer iawn o ddylanwad ar yr economi fyd-eang, a bod gwledydd tlotach yn gallu colli rheolaeth dros eu heconomi eu hunain yn hawdd.
  • Mae gan wledydd sy’n cynhyrchu olew ar gyfer gwledydd eraill lawer iawn o bŵer gwleidyddol, oherwydd i bob diben maen nhw’n gallu atal gwledydd eraill rhag cael cyflenwad olew crai os ydyn nhw’n cael anghydfod gwleidyddol.
  • Mae rhyfel neu argyfwng gwleidyddol mewn gwlad sy’n cynhyrchu olew’n gallu cyfyngu ar gyflenwadau olew crai, ac mae hynny’n gallu cael effaith ddifrifol ar yr economi fyd-eang.

Materion amgylcheddol

  • Mae llosgi tanwyddau ffosil yn rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod hyn yn un o’r prif bethau sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
  • Mae gollyngiadau olew’n gallu cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd lleol, gan ladd miloedd o anifeiliaid fel pysgod ac adar môr, ac mae angen llawer iawn o ymdrech i’w glanhau nhw.
  • Mae purfeydd olew a gorsafoedd trydan sy’n llosgi olew’n defnyddio llawer o dir ac felly’n dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt posibl ac yn difetha cefn gwlad. Fodd bynnag, nid dim ond problem i’r diwydiant olew yw hon – mae hyn yn wir am unrhyw safle diwydiannol.
Trending Now