Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

EbostEbost a gwebost

Mae post electronig neu ebost yn ffordd o anfon negeseuon, testun, a ffeiliau cyfrifiadurol rhwng cyfrifiaduron drwy’r rhyngrwyd.

Part of TGChMeddalwedd rhaglenni

Ebost a gwebost

Mae dau brif fath o ebost, ebost cleient a gwebost. Mae ebost cleient yn cael ei ddefnyddio’n aml gan ddefnyddwyr busnes ac mae’n golygu bod yr ebost yn cael ei o i (er enghraifft Microsoft Outlook neu Mozilla Thunderbird) ar gyfrifiadur y defnyddiwr. Mae defnyddwyr yn cael mynediad i webost drwy ac mae’n bosibl cael mynediad iddo o unrhyw gyfrifiadur sydd â .

Ebost cleient

Er mwyn sefydlu’r math yma o ebost mae angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad rhyngrwyd
  • cyfrif gydag ISP (Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd)
  • ebost, er enghraifft, Outlook, Thunderbird neu Entourage

Bydd y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn rhoi cyfrif ebost, cyfrinair a i ti, er enghraifft dyenw@enwlletywr.co.uk.

Mae cysylltiad 'ymlaen o hyd' a bydd angen talu tanysgrifiad cyfradd safonol. Ychydig iawn o bobl sy’n talu fesul munud y dyddiau hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu tâl misol am fynediad i fand eang.

Mae sganio yn dod yn safonol ar gyfrifon ebost, ac erbyn hyn mae llawer o ddarparwyr ebost yn cynnig gwasanaeth sbam (post sothach electronig).

Gwebost

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae gwebost yn golygu ebost ar y we. Does dim angen i ti gael meddalwedd ebost er mwyn defnyddio gwebost – dim ond cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd a phorwr. Mae cyfrifon gwebost yn ddi-dâl fel arfer.

Yr unig beth y mae angen i ddefnyddwyr ei wneud yw cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwebost fel Gmail, Hotmail neu Yahoo. Byddant yn cael enw defnyddiwr unigryw, cyfrinair a personol. Mae’n bosibl cael mynediad i’r blwch post drwy ymweld â chyfeiriad gwe penodol a mewngofnodi. Ar ôl mewngofnodi, gall defnyddwyr anfon a derbyn negeseuon.

Mantais gwebost yw bod defnyddwyr yn gallu derbyn ac anfon ebost o unrhyw gyfrifiadur yn y byd sydd â mynediad i’r rhyngrwyd a phorwr.

Bydd ambell yn galluogi ei gwsmeriaid i gael mynediad at eu blwch post drwy webost yn ogystal â thrwy’r feddalwedd ebost sydd ar eu cyfrifiadur personol.

Cymharu gwebost ac ebost cleient ar gyfrifiadur personol a dyfais tabled.
Trending Now