Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Adweithiau cildroadwy, amonia a phroses HaberFfyrdd o ddefnyddio amonia

Mae llawer o adweithiau'n anghildroadwy. Ond mewn adwaith cildroadwy, mae'r cynhyrchion yn gallu adweithio i gynhyrchu'r adweithyddion gwreiddiol. Ar ecwilibriwm, dydy crynodiadau'r adweithyddion a'r cynhyrchion ddim yn newid. Rydyn ni'n defnyddio llawer o amonia mewn gwrteithiau, ac yn ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses Haber.

Part of CemegAdweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig

Ffyrdd o ddefnyddio amonia

Cynhyrchu gwrteithiau

Un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n defnyddio amonia yw i gynhyrchu gwrteithiau. Mae’r gwrteithiau mwyaf effeithiol yn cynnwys nitrogen oherwydd mae angen nitrogen ar blanhigion i gynhyrchu proteinau. Mae ffosfforws a photasiwm hefyd yn elfennau hanfodol sydd i'w canfod yn aml mewn gwrteithiau. Mae manteision ac anfanteision wrth ddefnyddio gwrteithiau artiffisial.

Manteision

  • Cynyddu twf cnydau.
  • Cynyddu cynnyrch cnydau.
  • Gwella ansawdd pridd.

Anfanteision

  • Achosi ewtroffigedd.
  • Achosi syndrom babanod glas.
  • Troi’r pridd yn asidig.

Halwynau amoniwm yw llawer o wrteithiau. Gallwn ni hefyd eu gwneud nhw o amoniwm hydrocsid (hydoddiant amonia). Os ydyn ni’n defnyddio amoniwm hydrocsid, mae’r adwaith hefyd yn cynhyrchu dŵr.

Amonia + asid nitrig → amoniwm nitrad

NH3 + HNO3 → NH4NO3

Amoniwm hydrocsid + asid nitrig → amoniwm nitrad + dŵr

NH4OH + HNO3+ → NH4NO3 + H2O

Amonia + asid sylffwrig → amoniwm sylffad

2NH3 + H2SO4 → (NH4)2SO4

Amoniwm hydrocsid + asid sylffwrig → amoniwm sylffad + dŵr

2 NH4OH + H2SO4 → (NH4)2SO4 + H2O

Trending Now