Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Data a gwybodaethStorfeydd cynorthwyol allanol – disgiau optegol

Mae cyfrifiaduron yn defnyddio dau fath o storfa - prif storfa, sy’n cynnwys ROM a RAM, a storfeydd cynorthwyol. Mae storfeydd cynorthwyol yn gallu bod yn fewnol, er enghraifft disg caled, neu’n allanol, er enghraifft gyriant fflach USB.

Part of TGChData ac ansawdd data

Storfeydd cynorthwyol allanol – disgiau optegol

Mae llawer o wahanol fathau o ddisgiau optegol, er bod pob un yn edrych yn ddigon tebyg.

CD (Cryno Ddisg)

Disgiau optegol sy’n defnyddio’r un dechnoleg â cerddoriaeth. Maen nhw’n storio hyd at 700MB o . Mae’n bosibl defnyddio CDs ar gyfer , er enghraifft gwyddoniaduron, a gallant storio lluniau, seiniau a chlipiau fideo neu unrhyw beth arall fydd yn ffitio.

Mae nifer o fformatau ar y farchnad, er enghraifft:

  • CD-ROM – darllen yn unig. Mae’r data’n cael eu hysgrifennu arnyn nhw cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.
  • CD-R – CD-Recordable. Gall y defnyddiwr ysgrifennu data ar y CD unwaith neu ei lenwi dros gyfnod gan ddefnyddio mwy nag un sesiwn (ysgrifennu ar yr un disg ar adegau gwahanol).
  • CD-RW – CD-ReWritable. Mae’n bosibl ysgrifennu ar y CD ac ailysgrifennu arno. Yn wahanol i ddisgiau amlsesiwn, mae’n bosibl ysgrifennu dros ddata sydd yno’n barod.

DVD (Disg Amlbwrpas Digidol)

Mae DVDs yr un faint â CDs o safbwynt ffisegol, ond maen nhw’n dal llawer mwy o ddata – gall disg un ochr ddal hyd at 4.7 . Mae DVDs yn cael eu defnyddio’n aml i storio fideo, felly yn aml iawn maen nhw’n cael eu mesur mewn munudau, er enghraifft 4.7 GB = 120 munud.

Mae nifer o wahanol fformatau ar y farchnad, er enghraifft:

  • DVD-ROM – darllen yn unig. Mae’r data’n cael eu hysgrifennu arnyn nhw cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.
  • DVD-R – DVD-Recordable. Gall y defnyddiwr ysgrifennu data ar y DVD unwaith neu ei lenwi dros gyfnod gan ddefnyddio mwy nag un sesiwn.
  • DVD-RW – DVD-ReWritable. Mae’n bosibl ysgrifennu ar y DVD ac ailysgrifennu arno. Yn wahanol i ddisgiau amlsesiwn, mae’n bosibl ysgrifennu dros ddata sydd yno’n barod.
Cymharu capasiti storio CD, CDR a DVD.

Gyriannau CD/DVD

Er mwyn darllen data sydd ar CDs a DVDs, neu ysgrifennu data arnyn nhw, bydd angen i ti gael gyriant addas. Mae gyriannau CD/DVD yn gallu:

  • darllen pob fformat CD a DVD
  • ysgrifennu ar CD-R, CD-RW, DVD-R a DVD-RW

Mae data yn cael eu hysgrifennu ar ddisg a’u darllen oddi ar ddisg drwy ddefnyddio laser.

More guides on this topic

Trending Now