Data a gwybodaethSystemau TGCh a sut maen nhw’n cael eu defnyddio

Mae data yn cael eu prosesu gan gyfrifiaduron ac yn cael eu troi’n wybodaeth. Mae’n bosibl defnyddio’r wybodaeth hon i ffurfio barn a gwneud rhagfynegiadau.

Part of TGChData ac ansawdd data

Systemau TGCh a sut maen nhw’n cael eu defnyddio

Beth yw system TGCh?

Systemau TGCh yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd amrywiol mewn gwahanol sectorau gwaith, er enghraifft awyrennau, ffatrïoedd a llongau.

Mae TGCh a chyfrifiaduron yn ddau beth gwahanol.

Cyfrifiaduron yw’r sy’n aml yn rhan o system TGCh.

Dyma pam mae’n bwysig ein bod yn dysgu am gyfrifiaduron, a hefyd yn dysgu sut, pam a phryd mae pobl yn eu defnyddio. Pŵer cyfrifiaduron a dulliau cyfathrebu sydd wedi caniatáu i systemau TGCh fod mor bwysig. Fel unrhyw gyfarpar, y peth pwysig amdanyn nhw yw beth maen nhw’n ein galluogi ni i’w wneud.

Mae systemau TGCh yn cael eu defnyddio mewn nifer o amgylcheddau, er enghraifft:

  • swyddfeydd
  • siopau
  • ffatrïoedd
  • awyrennau
  • llongau

Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio mewn meysydd fel:

  • cyfathrebu
  • meddygaeth
  • ffermio

Mae systemau TGCh yn gyffredin ac yn cael eu defnyddio bob dydd, ac eto maen nhw’n rhyfeddol o ran y ffordd maen nhw’n gallu rhoi pŵer ychwanegol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud a’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud.

Pwysigrwydd systemau TGCh

Drwy ddefnyddio systemau TGCh rydym:

  • yn fwy cynhyrchiol – gallwn gwblhau mwy o dasgau, o fewn yr un faint o amser, am lai o gost drwy ddefnyddio cyfrifiaduron, o gymharu â’r hyn roedden ni’n gallu ei wneud cyn iddyn nhw gael eu dyfeisio
  • yn gallu ymdrin â llawer iawn o a’i phrosesu’n gyflym
  • yn gallu anfon a derbyn gwybodaeth yn gyflym

More guides on this topic

Trending Now