Gwneud copïau wrth gefn ac archifo data
Mae angen gwneud copi wrth gefn o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. am lawer o resymau:
- gallai defnyddiwr ddileu ffeil bwysig
- gall gyriant disg caledDyfais sy’n cael ei defnyddio i storio symiau mawr o ddata. beidio â gweithio
- gall firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. chwalu data
- gallai tân ddinistrio’r adeilad lle roedd y data’n cael eu storio (yn aml iawn bydd busnesau’n storio eu copi wrth gefnCopi o ffeiliau pwysig sy’n cael ei gadw ar wahân rhag ofn i’r ffeiliau gwreiddiol gael eu colli neu eu niweidio. oddi ar y safle)
Pe bai cwmni wedi colli data, a heb wneud copïau wrth gefn, gallai’r canlyniadau fod yn drychinebus, yn enwedig â rhai mathau o ddata. Pe bai busnes yn colli manylion yr holl daliadau y mae’n aros amdanynt gallai fynd yn fethdalwr, oherwydd ni fyddai’n gwybod faint o arian sy’n ddyledus iddo na gan bwy.
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio cyfrifiaduron yn eu cartrefi yn gwneud copïau wrth gefn o’u data, ond mae’n fwy na thebyg y bydd y rhai sydd yn gwneud copi wrth gefn yn defnyddio disg caled allanol.
Pa mor aml y mae copïau wrth gefn yn cael eu gwneud?
Mae rhai mathau o ddata yn fwy gwerthfawr na’i gilydd, ac mae rhai mathau o ddata’n cael eu newid yn amlach na’i gilydd. Dyma’r mathau o faterion y mae’n rhaid eu hystyried wrth benderfynu pa mor aml i wneud copïau wrth gefn o ddata.
Dylai gwerth y data bennu pa mor aml y mae copi wrth gefn yn cael ei wneud.
Os nad yw’r data’n newid yn aml does dim angen gwneud copïau wrth gefn mor aml. Efallai y byddai gwneud copi wrth gefn ar ôl pob newid yn ddigon. Os yw’r data’n newid yn aml dylai’r defnyddiwr wneud copi wrth gefn yn aml (bob min nos efallai).
Archifo
Mae rhai data sydd ddim yn cael eu defnyddio’n aml iawn, ond bod posibilrwydd y byddant yn ddefnyddiol yn y dyfodol, neu y bydd eu hangen yn y dyfodol. Mewn achosion fel hyn, mae’n bosibl archifo’r data. Mae data sydd wedi’u harchifo’n cael eu copïo i gyfrwng storio addas (DVDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio cerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae DVDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i CDs a disgiau Blu-ray. neu dâp magnetig o bosibl) yna’n cael eu storio’n ddiogel. Yn dilyn hyn mae’r data gwreiddiol yn cael eu dileu o’r system gyfrifiadurol er mwyn cael mwy o le storio ar gyfer data newydd.