Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Puro dŵrDihalwyno

Mae'n rhaid trin dŵr o afonydd, llynnoedd a'r môr er mwyn ei wneud yn ddiogel i'w ddefnyddio a'i yfed. Rydyn ni'n defnyddio gwahanol ddulliau i wneud hyn, fel gwaddodi, hidlo a chlorineiddio. Dysga hefyd am brosesau fflworideiddio, dihalwyno a distyllu.

Part of CemegDŵr

Dihalwyno

Dihalwyno yw tynnu halen o ddŵr y môr. Mae hyn yn cynhyrchu dŵr yfed glân ac mae’n arbennig o ddefnyddiol mewn gwledydd sydd â morlin ond heb ffynonellau dŵr croyw, fel afonydd a nentydd, ar gael iddynt.

Mae dihalwyno’n defnyddio un o ddau brif ddull. Y dull cyntaf yw osmosis gwrthdro, lle mae dŵr y môr yn cael ei orfodi drwy bilen dan wasgedd uchel. Mae’r bilen yn gadael i foleciwlau dŵr fynd drwodd ond yn atal unrhyw gemegion eraill sydd wedi’u hydoddi yn y dŵr rhag mynd drwodd.

Yr ail ddull yw dihalwyno thermol. Mae gweithfeydd dihalwyno (thermol) hŷn yn defnyddio egwyddor debyg i :

  • gwresogi’r heli neu adael i’r dŵr anweddu
  • casglu’r anwedd dŵr yn hytrach na’i golli
  • cyddwyso’r anwedd dŵr i ffurfio dŵr pur/dŵr croyw
  • mae’r halen yn cael ei adael ar ôl a gallwn ni ei ddefnyddio i wneud pethau eraill
Diagram sylfaenol i esbonio dihalwyno thermol.

Mae nifer o anfanteision i ddefnyddio dihalwyno.

  • Mae’r ddwy broses ddihalwyno’n defnyddio llawer mwy o egni na dulliau traddodiadol o drin dŵr.
  • Oherwydd bod angen mwy o egni, mae dihalwyno’n ddrutach na dulliau traddodiadol o drin dŵr. Mae hyn yn golygu nad yw rhai gwledydd tlawd yn gallu fforddio dihalwyno, er y byddai o fudd iddynt.
  • Oherwydd bod angen mwy o egni, mae dihalwyno’n cynhyrchu llawer iawn mwy o nwyon tŷ gwydr na dulliau traddodiadol o drin dŵr.
  • Mae’r dŵr hallt iawn sy’n cael ei gynhyrchu drwy ddihalwyno â philen yn llygrydd ac mae’n rhaid cael gwared ag ef yn ofalus.
  • Mae gweithfeydd dihalwyno’n gallu bod yn bell iawn oddi wrth rai ardaloedd poblog, a rhaid adeiladu pibellau dŵr hir iawn i gludo’r dŵr at y bobl sydd ei angen.

Yn y Dwyrain Canol mae’r rhan fwyaf o ddihalwyno’n digwydd oherwydd:

  • does dim llawer o lawiad
  • mae gan lawer o’r gwledydd forlinau
  • mae olew rhad ar gael i lawer o’r gwledydd i gael egni
  • mae llawer o’r gwledydd yn eithaf cyfoethog

More guides on this topic

Trending Now