Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

TrawsffurfiadauCylchdroi

Gellir trawsffurfio siapiau mewn sawl ffordd, yn cynnwys trawsfudo, cylchdroi, adlewyrchu a helaethu. Disgrifir maint helaethiad gan ei ffactor graddfa a disgrifir ei safle gan ganol yr helaethiad.

Part of MathemategTrawsffurfiadau

Cylchdroi

Os wyt ti’n rhoi darn o bapur ar fwrdd a gosod dy feiro yn ei ganol, gelli di gylchdroi’r papur tra’n cadw’r feiro mewn un safle.

Wrth wneud hyn rwyt ti’n cylchdroi’r papur o amgylch ei ganol.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 5, Diagram cylchdroi o’r canol, Cylchdroi o’r canol Darn papur statig heb ddim cylchdroi.

Bydd cylchdro llawn (\({360}^\circ\)) i’r papur yn golygu bod y papur yn ôl yn ei safle gwreiddiol.

Yn yr enghraifft uchod, canol y cylchdro oedd canol y petryal, ond beth sy’n digwydd pan fydd canol y cylchdro y tu allan i’r petryal?

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 5, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp, Cylchdroi o ganolbwynt y tu allan i’r siâp Petryal gyda phwynt cylchdroi y tu allan i’r siâp.
Trending Now