Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Lluosi a rhannuLluosi byr

Peth defnyddiol ydy gallu lluosi a rhannu heb ddefnyddio cyfrifiannell. Yma, rydyn ni'n edrych ar rannu byr a lluosi byr. Gallet ti wneud rhai o’r cyfrifiadau drosot dy hun.

Part of MathemategGweithrediadau (cyfrifiadau a symiau)

Lluosi byr

I luosi \({237}\) â \({4}\) heb ddefnyddio cyfrifiannell, gelli di ei osod allan fel hyn:

Diagram lluosi byr
  1. Dechreua gyda \({4}\times{7}\), sef \({28}\), felly ysgrifenna’r \({8}\) a chario’r \({2}\) i golofn y degau.
  2. \({4}\times{3} = {12}\), ond cofia adio’r \({2}\) a gariwyd i gael \({14}\). Ysgrifenna’r \({4}\) a chario’r \({1}\) i golofn y cannoedd.
  3. \({4}\times{2} = {8}\), ac adio’r \({1}\) a gariwyd i gael \({9}\).

Felly \({237}\times{4} = {948}\).

Lluosi byr ydy’r enw ar y dull hwn.

Defnyddio grid lluosi

Mae gosod y rhifau mewn grid yn hwyluso’r cyfrifo. Yn y grid hwn dangoswn \({7}\times{4}\) fel:

Grid lluosi i ddangos 7 x 4

Mae hyn yn arwain at grid cyflawn fel hyn:

Grid lluosi i ddangos 237 x 4

Mae’r rhifau porffor ar waelod y tabl yn dod trwy adio’r rhifau ar y groeslin.

Rydyn ni’n gweld felly mai ateb \({237}\times{4} = {948}\).

Trending Now