Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Gwyliau a dathliadauYom Hashoah

Mae gwyliau’n dathlu adegau pwysig yng nghalendr pob crefydd. Mae llawer o wyliau Iddewig yn canolbwyntio ar gofio nerth achubol Duw a bod daioni’n goresgyn drygioni.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Yom Hashoah

Yn ystod Yom Hashoah mae Iddewon yn cofio trychineb yr . Mae’r Holocost yn cyfeirio at adeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd 6 miliwn o Iddewon eu lladd gan y Natsïaid oherwydd eu credoau. Enw arall am Yom Hashoah yw Diwrnod Coffáu’r Holocost.

Mae Yom Hashoah yn rhan o galendr Iddewon ym mhob rhan o’r byd. Maen nhw’n cymryd rhan mewn defodau i gofio’r rhai gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac i wneud yn siŵr nad oes trychineb debyg yn digwydd eto.

Mae’r defodau ar y diwrnod hwn yn cynnwys:

  • tawelwch am 11:00
  • cynnau cannwyll mewn cartrefi Iddewig
  • ymprydio yn achlysurol

Mae’r enw Yom Hashoah yn dod o’r gair Hebraeg 'shoah', sy’n golygu 'corwynt'.

Trending Now