Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Gweld y Gorwel gan Aneirin KaradogNeges ac agwedd y bardd yn y gerdd

Mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n ymdrin â themâu cyfoes. Mae’n defnyddio ailadrodd i ddisgrifio undonedd bywyd person sy'n gaeth i gyffuriau yn ceisio adfer ei hun.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd yn y gerdd

Y neges a gawn yw bod cyffuriau’n broblem mewn cymdeithas a bod y sawl sy’n mynd yn gaeth iddyn nhw'n wynebu hunllef wrth drio gwella a dod oddi arnyn nhw. Mae teitl gobeithiol y gerdd a’r awgrymiadau ynddi fod pethau’n gwella yn cyfleu’r syniad fod modd gorchfygu unrhyw gaethiwed gyda grym ewyllys ac y daw eto haul ar fryn ar ôl pob tywyllwch yn y pen draw.

Am y rheswm yma gallwn fod gan y bardd gydymdeimlad â’r cymeriad hwn er iddo ei labelu gyda’r gair ‘druggie’, sy’n cyfleu dirmyg. Ydi, mae e wedi creu ei ‘gawdel’ ei hun ond mae’n gwneud ymdrech i wella ac yn dioddef oherwydd ei wendid. Mae’r bardd yn ceisio ein cael ni hefyd i gydymdeimlo gyda’r diflastod diddiwedd ac i obeithio bod ail gyfle’n dod. Heb hynny fyddai dim pwynt i unrhyw ‘rehab’ oni bai fod gobaith i bobl wella.

Themâu

Mae sawl thema yma ar wahân i’r un amlwg o fynd yn gaeth i gyffur. Gwelwn ddiflastod y dyddiau o driniaeth undonog, anodd. Gwelwn unigrwydd wrth i gymeriad y gerdd golli nabod arno ef ei hun a phawb arall. Mae yng nghanol dieithriaid yn mynd drwy hunllef. Mae yma ddyfalbarhad ac awgrym o ddal ati er mwyn dod drwyddi lle mae iechyd a bywyd newydd ar gael. Mae elfen o hiraeth am ei gariad, am ei hen fywyd a’i gydnabod. Ond y thema ganolog yw gobaith a’r teimlad o edrych ymlaen a theimlo bod yna ddyfodol wedi’r cyfan a bod modd 'gweld y gorwel'.

Trending Now