Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

AmserCloc 12 awr a 24 awr

Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.

Part of MathemategAmser

Cloc 12 awr a 24 awr

Rydyn ni’n defnyddio naill ai’r cloc \({12}\) awr neu’r cloc \({24}\) awr i fesur amser.

Cloc 12 awr

Mae nodiant cloc \({12}\) awr yn defnyddio am a pm (neu yb ac yh) i nodi’r bore a’r prynhawn neu’r hwyr.

  • \({am}\) (\({yb}\)) ydy’r amser o \({12}\) hanner nos hyd at \({12}\) hanner dydd.
  • \({pm}\) (\({yh}\)) ydy’r amser o \({12}\) hanner dydd hyd at \({12}\) hanner nos.

Enghraifft

Ystyr \({6.23}am\) ydy \({23}\) munud wedi \({6}\) yn y bore.

Ystyr \({7.45}am\) ydy chwarter i \({8}\) yn y bore.

Cloc 24 awr

Gyda’r cloc \({24}\) awr does dim angen defnyddio \({am}\) na \({pm}\). Dynodir y prynhawn gan rif sy’n fwy na \({12}\).

Enghraifft

Bydd \({3.00}pm\) yn troi’n (\({3} + {12})\) = \({15.00}\).

Bydd \({5.46}pm\) yn troi’n (\({5.46} + {12}\)) = \({17.46}\).

Mae’r cloc \({24}\) awr bob amser yn defnyddio \({4}\) digid, felly i nodi unrhyw amser cyn \({10.00}\) rhoddir sero ar y dechrau.

Enghraifft

Mae \({01.00}\) yn golygu \({1.00}am\).

Mae \({13.00}\) yn golygu \({1.00}pm\).

Mae \({04.00}\) yn golygu \({4.00}am\).

Mae \({16.00}\) yn golygu \({4.00}pm\).

Question

Copïa a chwblha’r tabl canlynol, wedyn gwiria dy atebion.

Tabl i drosi amseroedd rhwng cloc 12 awr, a chloc 24 awr

Trending Now