Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Tywydd eithafol – CBACTywydd peryglus – diwasgedd

Gall systemau gwasgedd isel (diwasgedd) a systemau gwasgedd uchel (gwrthseiclonau) achosi digwyddiadau tywydd eithafol mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys y DU.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Tywydd peryglus – diwasgedd

Mae dau fath gwahanol o systemau gwasgedd yn dod â gwahanol fathau o dywydd i'r DU. a gwrthseiclonau yw’r rhain. Ar adegau, gall y tywydd sy’n gysylltiedig â'r ddwy system dywydd yma fod yn beryglus iawn.

Diwasgedd

Ardal o wasgedd atmosfferig isel yw diwasgedd. Mae aer sy’n codi yn achosi i gymylau ffurfio, sy’n arwain at law. Mae diwasgedd yn aml yn symud tua'r dwyrain ar draws y DU, gan ddod â thywydd cyfnewidiol wrth iddo deithio. Mae’r diagram isod yn dangos y tywydd cyfnewidiol mae ffryntiau cynnes ac oer yn eu cyflwyno wrth iddyn nhw symud tua'r dwyrain.

Ceir glaw lle bo ffryntiau oer a ffryntiau cynnes. Mae’r ardal rhwng ffryntiau yn glir ac yn sych.

Astudiaeth achos – Llifogydd Cymbria, 2015

Ym mis Rhagfyr 2015, torrodd Storm Desmond record newydd wrth i 341.4 mililitr o law ddisgyn mewn 24 awr. Arweiniodd hyn at lifogydd yn ardal Cymbria ac yn enwedig yn nhref Cockermouth, er gwaetha’r rhwystr llifogydd sy’n cau ei hun a gafodd ei adeiladu yn 2013.

Achosion ffisegol

Cafwyd dros Fynyddoedd Cymbria oherwydd yr aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd. Po gynhesaf yw’r aer, y mwyaf o leithder mae’n ei ddal.

Cafodd aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd ei wthio i fyny Mynyddoedd Cymbria gan y prifwyntoedd. Wrth i'r aer oeri, cyddwysodd a ffurfio glaw trwm, a lifodd i Afon Derwent ac Afon Cocker.
  1. Cafodd aer cynnes o ganol Cefnfor Iwerydd ei symud tuag at y tir gan y prifwynt.
  2. Cafodd yr aer ei wthio am i fyny gan Fynyddoedd Cymbria.
  3. Wrth i'r aer oeri, cyddwysodd a ffurfio glaw trwm. Arhosodd y ffrynt tywydd dros ardal Cymbria.
  4. Llifodd y glaw i Afon Derwent ac Afon Cocker.
  5. Mae tref Cockermouth yn y man lle mae’r afonydd yn ac arweiniodd hynny at lifogydd trwm.

Canlyniadau

Wrth ddadansoddi effeithiau trychinebau naturiol, mae’n bwysig eu rhannu i dri maes.

  1. Cymdeithasol – yr effaith ar bobl a chymunedau.
  2. Economaidd – yr effaith ar swyddi, isadeiledd cludiant, busnesau ac economïau lleol a chenedlaethol.
  3. Amgylcheddol – yr effaith ar fywyd gwyllt, cynefinoedd, llystyfiant a dŵr.

Cymdeithasol

  • Cafodd y cyflenwad pŵer ei dorri mewn dros 43,000 o gartrefi ledled Cymbria a Sir Gaerhirfryn.
  • Cafodd y llifogydd effaith ar oddeutu 5,200 o gartrefi.
  • Bu farw un person yn ardal Cymbria.
  • Bu’n rhaid i 40 o ysgolion gau yn adral Cymbria.

Economaidd

  • Amharwyd ar wasanaethau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
  • Dioddefodd nifer o fusnesau oherwydd difrod i eiddo a stoc.
  • Amcangyfrifwyd bod y gost ledled Cymbria yn £500 miliwn. Rhoddodd y llywodraeth £50 miliwn i bobl a busnesau a wnaeth ddioddef o ganlyniad i'r llifogydd.
  • Rhagfynegwyd y byddai cwmnïau yswiriant yn talu hyd at £325 miliwn i breswylwyr a busnesau.

Amgylcheddol

  • Cafodd yr afonydd eu newid yn sylweddol, gyda’r cyfraddau erydu yn cynyddu.
  • Cafodd maethynnau eu golchi o’r pridd gan y glaw trwm.
  • Cafodd llystyfiant ei foddi, a arweiniodd at golli cynefinoedd.
Stryd dan ddŵr. Ceir wedi eu difrodi yn y tu blaen a’r dŵr i fyny at eu ffenestri.
Image caption,
Daeth afon Derwent dros ei glannau yn 2009 ac yn 2015, gan achosi llifogydd i lawer o gartrefi a busnesau yn Cockermouth
Trending Now