Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Casglu a chofnodi dataData di-dor

Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli’r data.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Data di-dor

Hyd yn hyn, mae’r data rwyt ti wedi ei weld yn ddata arwahanol.

Os byddwn ni’n cyfrif pethau, rydyn ni’n cael data arwahanol. Mae naid pendant rhwng y data, hy mae’n bosib cael \({4}\) car coch neu \({5}\) car coch ond gelli di ddim cael \({4}\frac{1}{2}\) car coch, na \({4.27}\) car coch. Mae maint esgidiau hefyd yn ddata arwahanol – gelli di gael maint \({4},~{4}\frac{1}{2},~{5},~{5}\frac{1}{2},~{6}\) ayyb – ond gelli di ddim cael maint \({4}\frac{3}{4}\) na maint \({6.2.}\)

Ar y llaw arall, mae data di-dor yn ddata a all fod yn unrhyw werth, ee amser, taldra a phwysau.

Oherwydd bod data di-dor yn gallu bod yn unrhyw werth, mae nifer di-ben-draw o ganlyniadau posib. Felly, mae’n rhaid grwpio data di-dor cyn gallu eu cyfleu mewn tabl amlder neu ddiagram ystadegol.

Grwpio data di-dor

Wrth ddewis grwpiau ar gyfer y data, gwna’n siŵr fod modd rhoi pob darn o ddata mewn un (a dim ond un) o’r grwpiau.

Enghraifft o ymchwiliad

Rwyt ti’n ymchwilio i faint o amser y mae pob aelod o’r dosbarth yn ei dreulio ar y we mewn wythnos. Edrycha ar y grwpiau dosbarthu isod – wyt ti’n meddwl eu bod nhw’n gywir?

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae’r grwpiau hyn yn anghywir, achos gallwn ni roi’r amserau ’\({10}\) awr’ a ’\({20}\) awr’ mewn dau grŵp gwahanol.

Er enghraifft, gallwn ni roi’r amser \({10}\) awr yn y dosbarth \({0}\leq{amser}\leq{10}\) (lle mae amser yn llai na neu’n hafal i \({10}\) awr), a hefyd yn y dosbarth \({10}\leq{amser}\leq{20}\) (lle mae amser yn fwy na neu’n hafal i \({10}\) awr).

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae’r grwpiau hyn yn anghywir hefyd, achos does dim modd rhoi’r amserau ’\({10}\) awr’ a ’\({20}\) awr’ yn unrhyw un o’r grwpiau.

Er enghraifft, does dim modd rhoi’r amser \({10}\) awr yn y grŵp \({0}\textless{amser}\textless{10}\) (lle mae amser yn llai na \({10}\) awr), na chwaith yn y grŵp \({10}\textless{amser}\textless{20}\) (lle mae amser yn fwy na \({10}\) awr).

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae’r grwpiau hyn yn iawn. Mae ’\({10}\) awr’ wedi ei gynnwys yn yr ail grŵp, ond nid yn y cyntaf, ac mae ’\({20}\) awr’ wedi ei gynnwys yn y trydydd grŵp, ond nid yn yr ail.

More guides on this topic

Trending Now