Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Tirffurfiau arfordirol – CBACOgofâu, bwâu, staciau a stympiau

Mae tirffurfiau mawr yn cynnwys pentiroedd/baeau, traethau, clogwyni, bwâu, staciau, tafodau a llyfndir tonnau. Mae tirffurfiau bach yn cynnwys pyllau glan môr a rhiciau tonnau.

Part of DaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Ogofâu, bwâu, staciau a stympiau

Mae crac yn ehangu i fod yn ogof, ac ogof yn ehangu i fod yn fwa. Mae’r bwa’n cwympo gan adael pentir a stac. Mae llyfndir tonnau yn dod i’r golwg ar lanw isel. Mae’r stac yn cwympo ac yn troi’n stwmp

Mae ogofâu, bwâu, staciau a stympiau yn arweddion erydol cyffredin ar .

  1. Mae craciau yn cael eu ffurfio yn y pentir drwy brosesau erydol gweithred hydrolig a sgrafellu.
  2. Wrth i’r tonnau grafu ochrau’r crac, mae’n dechrau agor i ffurfio ogof.
  3. Mae’r ogof yn mynd yn fwy ac yn y diwedd yn torri drwy’r pentir i ffurfio bwa.
  4. Mae gwaelod y bwa yn mynd yn lletach o hyd drwy ragor o erydiad, nes bod ei do’n mynd yn rhy drwm ac yn cwympo i’r môr. Mae hyn yn gadael stac (colofn o graig ar ei phen ei hun). Mae Staciau Elegug (‘Stack Rocks’) yn Sir Benfro yn enghreifftiau rhagorol o staciau.
  5. Mae gwaelod y stac yn cael ei dandorri nes bod y stac yn cwympo ac yn ffurfio stwmp.
Mae Pont Werdd Cymru yn Sir Benfro yn enghraifft wych o fwa
Image caption,
Mae Pont Werdd Cymru yn Sir Benfro yn enghraifft wych o fwa

(Cynnwys Saesneg)

Trending Now