Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Termau a mynegiadau algebraiddLluosi mynegiadau

Defnyddir llythrennau mewn algebra yn lle rhifau anhysbys, gan roi termau algebraidd i ni, megis 2x. Wrth gyfuno termau algebraidd trwy weithrediadau mathemategol fel + neu - cawn fynegiad algebraidd.

Part of MathemategMynegiadau a Fformiwlâu

Lluosi mynegiadau

Lluosi llythrennau

Gall mynegiadau algebraidd gael eu lluosi yn yr un ffordd â rhifau.

\({a}\times{a} = {a}^{2}\),

\({b}\times{b} = {b}^{2}\) ayyb.

Cofia nad ydy \({2a}\) yr un fath ag \({a}^{2}\)

\({2a} = {2}\times{a}\)

\({a}^{2} = {a}\times{a}\)

Yn gyffredinol, \({a}^{m}\times{a}^{n} = {a}^{({m} + {n})}\)

Question

Symleiddia:

a) \({a}^{2}\times{a}^{3}\)

b) \({p}^{4}\times{p}^{2}\)

Cofia fod \({x}\) yr un fath ag \({x}^{1}\) wrth ddefnyddio’r rheol hon, ee \({n}^{3}\times{n} = {n}^{({3} + {1})} = {n}^{4}\)

Lluosi rhifau a llythrennau

Lluosa’r llythrennau a’r rhifau ar wahân:

Mae \({2}\times{3a}\) yn golygu \({2}\times{3}\times{a}\) sef \({6a}\)

Mae \({4a}\times{5a}\) yn golygu \({4}\times{a}\times{5}\times{a}\) sef \({4}\times{5}\times{a}\times{a} = {20a}^{2}\)

Question

Symleiddia \({2p}\times{3p}^{2}\)

More guides on this topic

Trending Now