Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Patrymau a phrosesau’r tywydd – CBACMicrohinsoddau

Tywydd yw amodau’r atmosffer o ddydd i ddydd mewn lle penodol. Hinsawdd yw amodau tywydd cyfartalog lle dros gyfnod, 30 mlynedd fel arfer.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Microhinsoddau

Gall ffactorau fel y dirwedd, uchder a gweithgareddau (dynol a naturiol) effeithio ar amodau hinsoddol mewn ardal. Gall hinsawdd newid dros gyfnod a rhwng gwahanol leoliadau.

O fewn rhanbarth hinsoddol, gall yr hinsawdd amrywio o le i le – ee ar ben bryn, ochr heulog bryn, ochr gysgodol bryn a gwaelod bryn. Mae’r ardaloedd hyn sydd â’u mân amrywiadau yn cael eu galw’n ficrohinsoddau.

Mae nodweddion ffisegol fel ardaloedd o ddŵr yn gallu oeri’r tir. Gall coed gysgodi’r tir, a’i wneud yn oerach. Bydd nodweddion dynol fel waliau ac adeiladau yn cysgodi rhag y gwynt, gan ei gwneud hi’n gynhesach. Gall adeiladau sy’n cael eu gwresogi hefyd ryddhau gwres (pelydru), a bydd hyn hefyd yn ei gwneud hin gynhesach na’r dirwedd o gwmpas. Oherwydd gweithgaredd dyn, mae’r tymheredd mewn microhinsawdd drefol yn uwch na thymheredd yr ardaloedd o gwmpas. Rydym yn dweud bod ardaloedd trefol yn ynysoedd gwres trefol gan fod tymereddau, dan amodau digynnwrf, ar eu huchaf yn yr ardaloedd adeiledig yng nghanol y ddinas ac yn gostwng wrth fynd i gyfeiriad y maestrefi ac allan i gefn gwlad.

Mae ardaloedd adeiledig trefol yn aml 3 i 4 gradd yn gynhesach na’r ardaloedd o’u cwmpas. Yr enw am hyn yw ynys wres drefol.
Trending Now