Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Addoli yn y cartrefY gegin kosher

I Iddewon, mae'r cartref yn lle pwysig i addoli ynddo. Mae heriau, manteision ac anfanteision wrth gadw Shabbat, yn ogystal â rheolau bwyd mae'n rhaid i Iddewon lynu atyn nhw yn y cartref.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Y gegin kosher

Kashrut

Daw’r gair kashrut o’r llythrennau Hebraeg Kaf-Shin-Reish, sef iawn, priodol neu gywir. Mae kashrut yn cyfeirio at y set o ddeddfau bwyd a diet Iddewig sydd i’w cael yn y Torah, yn bennaf yn Lefiticus 11:1-23.

Bydd Iddewon Uniongred yn cadw’n gaeth at y deddfau bwyd hyn, ond gall rhai Iddewon Diwygiedig neu Ryddfrydol ddewis peidio.

Kosher

Mae’r term kosher yn cyfeirio at fwydydd y mae Iddewon yn cael eu bwyta. Ystyr kosher yw addas, a dyma’r label a ddefnyddir ar gyfer pob bwyd y mae Iddewon yn cael ei fwyta. Mae bwydydd kosher yn cynnwys:

  • pob ffrwyth
  • pob llysieuyn
  • anifeiliaid sydd â charnau hollt ac sydd hefyd yn cnoi cil
  • rhai adar, er enghraifft cyw iâr, hwyaden, twrci, ond mae adar ysglyfaethus wedi’u gwahardd
  • pysgod sydd ag esgyll a chen

Shechitah

Er mwyn i anifeiliaid fod yn kosher rhaid iddynt fod wedi’u lladd mewn ffordd arbennig. Rhaid eu lladd mewn ffordd sy’n achosi’r lleiaf o boen i’r anifail. Mae hyn yn galw am dorri gwddf yr anifail â chyllell finiog sy’n achosi iddo fynd yn anymwybodol a marw’n syth heb ddioddef yn hir. Shechitah yw’r enw ar y dull hwn o ladd.

Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt, “Dywedwch wrth bobl Israel: ‘O’r holl anifeiliaid sy’n byw ar y ddaear, dyma’r rhai y cewch eu bwyta: unrhyw anifeiliaid sy’n hollti’r ewin ac yn ei fforchi i’r pen, a hefyd yn cnoi cil.
— Lefiticus 11:1-3
Trending Now