FformiwlâuAmnewid

Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti’n ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.

Part of MathemategMynegiadau a Fformiwlâu

Amnewid

Pan roddir rhifau yn lle’r llythrennau mewn fformiwla, gelwir hynny’n amnewid.

Enghraifft o amnewid gydag amser

Ar gyfer mesur amser, mae arwyneb y Ddaear wedi ei rannu’n \({24}\) rhan gyfartal o \({15}^\circ\), sef y cylchfâu amser, sy’n dechrau yn Greenwich, Llundain (Greenwich Mean Time - GMT). Wrth basio dros bob cylchfa tua’r dwyrain byddi di’n adio \({1}\) awr at GMT, ac wrth basio dros bob cylchfa tua’r gorllewin byddi di’n tynnu \({1}\) awr oddi wrth GMT.

Ar y sail hon, galwa’r amser yn Llundain yn \({g}\).

Y fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Bangkok, Gwlad Thai ydy \({g}+{7.00}\).

A’r fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Santiago, Chile, ydy \({g}-{4.00}\).

Mae’r fformiwlâu hyn yn caniatáu i ni amnewid \({g}\) am unrhyw amser yn Llundain i ganfod yr amser yn Bangkok neu Santiago.

Question

Gan ddefnyddio’r fformiwla uchod, canfydda’r amser yn Bangkok pan mae’n \({14.00}\) yn Llundain.

Question

Faint o’r gloch ydy hi yn Santiago, Chile, pan mae hi’n \({20.00}\) o’r gloch yn Llundain?

Enghraifft o amnewid gyda thymheredd

Dyma’r fformiwla ar gyfer trosi’r tymheredd mewn graddau Fahrenheit \((^\circ{F})\) i’r tymheredd mewn graddau Celsius \((^\circ{C})\).

\({c}=\frac{{5}({f}-{32})}{9}\)

Mae \(f\) yn cynrychioli’r tymheredd mewn \(^\circ{F}\).

Mae’r fformiwla hon yn caniatáu i ti amnewid unrhyw dymheredd \(^\circ{F}\) yn lle \({f}\) i ganfod ei dymheredd cywerth mewn \(^\circ{C}\).

Enghraifft

I ganfod y tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae’n \({68}^\circ{F}\), rho \({68}\) yn lle’r \({f}\) yn y fformiwla.

Pan fydd \({f} = {68}\),

\({5}({f} - {32})\div{9}\)

\(= {5}({68} - {32})\div{9}\)

Cofia gyfrifo unrhyw gyfrifiad mewn cromfachau’n gyntaf: \(({68} - {32}) = {36}\).

Mae rhif nesaf at unrhyw beth mewn cromfachau’n golygu y dylid lluosi cynnwys y cromfachau, felly mae \({5}({36})\) yn golygu \({5}\times{36}:\)

\({5}({36})\div{9}\)

\(= ({5}\times{36})\div{9}\)

\(= {180}\div{9} = {20}\)

Felly \({68}^\circ{F} = {20}^\circ{C}\)

Question

Beth ydy’r tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae’n \({77}^\circ{F}\)?

More guides on this topic

Trending Now