Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Daioni, drygioni a dioddefaintCristnogaeth: trafod drygioni a dioddefaint

Weithiau mae drygioni a dioddefaint yn gallu peri i bobl gwestiynu eu credoau crefyddol. Mae credoau Cristnogol am darddiad dioddefaint yn y byd a sut i ymateb i'r broblem hon yn amrywio.

Part of Astudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu am ddrygioni a dioddefaint?

Byddai drygioni a dioddefaint yn gallu gwneud i Gristnogion amau yw Duw yn , yn , neu'n . Er enghraifft:

  • Pe bai Duw yn gallu gwneud popeth, pam na fyddai'n atal trychinebau naturiol?
  • Pe bai Duw yn caru popeth, pam na fyddai'n atal dioddefaint?
  • Pe bai Duw yn gwybod popeth, oni fyddai'n gwybod bod pobl yn mynd i wneud rhywbeth drwg ac yn eu hatal nhw?

Weithiau bydd Cristnogion yn rhoi un neu fwy o'r atebion canlynol:

  • Mae Duw wedi rhoi i bobl. Mae wedi dangos i bobl bod rhaid iddyn nhw ufuddhau i'r a dilyn bywyd a dysgeidiaeth Iesu. Yna, lle bodau dynol yw penderfynu dilyn cyfarwyddiadau Duw neu beidio.
  • Mae gan Dduw gynllun ar gyfer bywydau pobl, ac efallai na fyddan nhw'n ei ddeall bob amser. Efallai bydd hyn yn cynnwys drygioni a dioddefaint, ond dylai Cristnogion ymddiried yng nghynllun Duw a chadw ffydd.
  • Mae Duw eisiau i bobl ddilyn enghraifft Iesu a helpu pobl sy'n dioddef. Rhaid bod gan Dduw reswm dros ganiatáu drygioni a dioddefaint, ond mae'r rheswm y tu hwnt i ddealltwriaeth bodau dynol.
  • Mae Cristnogion hefyd yn gweddïo dros bobl sy'n dioddef ac yn ceisio eu helpu nhw.
  • Mae drygioni a dioddefaint yn y bywyd hwn yn ffordd o baratoi ar gyfer y . Mae drygioni a dioddefaint yn rhoi cyfle i bobl i fod yn bobl well a gwella eu heneidiau. Maen nhw'n credu y bydd Duw yn eu gwobrwyo nhw yn y Nefoedd.

More guides on this topic

Trending Now