Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

FfracsiynauBeth ydy ffracsiwn?

Mae ffracsiynau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part of MathemategFfracsiynau

Beth ydy ffracsiwn?

Os wyt ti’n torri teisen yn ddau ddarn hafal ac yn bwyta un ohonyn nhw, rwyt ti wedi bwyta \(\frac{1}{2}\) (hanner) teisen.

Diagram o gylch wedi’i rannu’n ddwy ran hafal

Os ydy teisen yn cael ei thorri’n bum darn hafal a dy fod ti'n bwyta tri ohonyn nhw, rwyt ti wedi bwyta \(\frac{3}{5}\) (tair rhan o bump) o deisen.

Diagram yn dangos cylch â phum rhan hafal, a ffracsiwn 3/5 o gylch

Mae \(\frac{1}{2}\) a \(\frac{3}{5}\) yn enghreifftiau o ffracsiynau – rhannau o rywbeth cyfan.

Trending Now