CymesureddCymesuredd adlewyrchiad

Dysga sut i ddarganfod llinellau cymesuredd adlewyrchiad, a sut i adnabod cymesuredd cylchdro, mewn siapiau megis polygonau rheolaidd.

Part of MathemategCymesuredd

Cymesuredd adlewyrchiad

Mae’r llinell fylchog drwy ganol y llythyren A yn cael ei galw’n llinell ddrych, achos os wyt ti’n gosod drych ar ei hyd, bydd y siâp yn edrych yn union yr un fath â’r gwreiddiol.

Diagram llinell cymesuredd

Enw arall ar linell ddrych ydy llinell cymesuredd. Mae’r math hwn o gymesuredd yn cael ei alw’n gymesuredd adlewyrchiad hefyd.

Nawr, edrycha ar beth sy’n digwydd pan wyt ti’n plygu’r llythyren ‘A’ ar hyd gwahanol linellau bylchog.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Llunio triongl gan ddefnyddio cwmpas, Ceisio cael cymesuredd Mae’r llythyren A wedi ei marcio â llinellau plygu.

Dim ond yn y drydedd enghraifft y mae’r rhan o’r siâp sydd i’w phlygu’n ffitio’n berffaith dros y rhan wreiddiol. Y llinell fylchog yma ydy unig llinell cymesuredd y llythyren A.

Trending Now