Ecosystemau ar raddfa fach – twyni tywod
Mae arfordiroedd gogledd a de Cymru yn adnabyddus am eu traethau tywodlyd hardd, sy’n eu gwneud yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd i ymwelwyr o'r DU a rhannau eraill o’r byd. Y tu ôl i lawer o’r traethau hyn mae systemau twyni tywod sy’n darparu cartrefi i fathau amrywiol o fywyd gwyllt, gan gynnwys planhigion a phryfed, rhai mor arbenigol fel bod perygl y byddent yn darfod oni bai am y cynefinoedd twyni hyn. Mae’r twyni tywod hyn hefyd yn rhwystr naturiol hanfodol rhag grym y tonnau.
Planhigion yn sefydlu
Wrth i dwyni tywod sefydlu, mae planhigion yn dechrau ffurfio a thyfu arnynt. Mae llystyfiant cynradd yn rhoi sefydlogrwydd i’r twyni tywod, sydd yn eu tro’n dal y tywod. Yna mae gwynt yn cael ei wyro dros y gefnen a’r llystyfiant, gan greu cysgod fel bod planhigion mwy yn gallu tyfu a sefydlu.

Mae’r twyni tywod ym Merthyr Mawr yn anarferol iawn, oherwydd maen nhw wedi ffurfio yn erbyn llwyfandir calchfaen carbonifferaidd sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd yr arfordir. Mae hyn y golygu mai twyni Merthyr Mawr yw’r rhai uchaf ond un yn Ewrop. Mae’r warchodfa hon hefyd yn cynnwys enghreifftiau o gamau olynol y broses o ffurfio twyni, o dywod moel, egin-dwyni i dwyni sefydlog (ymhellach oddi wrth yr arfordir) a llaciau twyni.
Mae’r safle’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd y rhywogaethau toreithiog o blanhigion a phryfed sy’n byw yno.
Mae llawer o’n systemau twyni tywod, a’r cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnyn nhw, wedi’u diogelu drwy ddeddfwriaeth y DU a deddfwriaeth ryngwladol. Er gwaetha’r deddfwriaethau hyn, mae cydnabyddiaeth gynyddol i’r ffaith y bydd llawer o’r rhywogaethau hyn yn darfod cyn bo hir os nad oes rhagor yn cael ei wneud i’w diogelu.
Effeithiau pobl ar dwyni tywod ac amgylcheddau arfordirol yng Nghymru
Ar hyd arfordir de Cymru, mae datblygiadau mawr, fel twf trefi a dinasoedd, ehangu rhwydweithiau trafnidiaeth a chyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer ymwelwyr wedi rhoi llawer o bwysau ar dwyni tywod. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae’r galw am ffynhonnell egni adnewyddadwy fwy gwyrdd wedi cyflwyno problem bosibl arall.
Rhagor o effeithiau dynol ar gylchredau, llifoedd a phrosesau naturiol
Pan mae pobl yn ymyrryd ag ecosystemau naturiol, mae’r cylchredau maetholion a dŵr naturiol hefyd yn cael eu haddasu. Gall hyn hefyd effeithio ar lifoedd naturiol gwaddod ar hyd traeth neu i lawr afon, gan aflonyddu arnynt a’u newid.