Conwy

Taith o gwmpas tref Conwy, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, Tŷ Aberconwy, Plas Mawr a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar y gwastad ac ar balmentydd yng nghanol y dref. Yn y ddau achos lle mae'r daith yn mynd ar hyd muriau'r dref, mae yna opsiwn A sy'n cadw at y palmant. Mae'r maes parcio ger y castell yn gyfleus i'r daith hon (codir tâl i barcio yno) gan fod y llwybr yn cychwyn wrth fynedfa mur y dref ger Canolfan Ymwelwyr Conwy (Stryd Rose Hill) gyferbyn â'r gwesty Town House.
Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.
1. Castell Conwy

Codwyd y castell sy'n edrych dros afon Conwy gan Edward I yn 1283
2. Pont grôg Thomas Telford

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont gan Thomas Telford yn 1826
3. TÅ· Lleiaf Prydain

Ar y Cei mae'r tÅ· bychan hynod hwn sy'n 72 modfedd o led a 122 modfedd o uchder
4. TÅ· Aberconwy

Credir mai dyma'r tŷ trefol hynaf yng Nghymru, yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif
5. Eglwys Santes Fair a'r Holl Saint

Mae'n debyg bod sylfaen yr Eglwys hon wedi bodoli yma ers 1173, cyn Castell Conwy a muriau'r dref
6. Plas Mawr

Adeilad trawiadol o Oes Elisabeth wedi ei adeiladu yn y 16eg ganrif. Robert Wynn, masnachwr dylanwadol oedd y perchennog
7. Muriau'r dref (opsiwn B yn unig)

Cerddwch ar hyd y muriau am olygfeydd arbennig o'r cei a'r castell
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.



