 | Edrych ar yr hyn a ddywedodd Crist ar y Groes y bydd gwahanol oedfaon y Grawys ar BBC Radio Cymru yn 2007.
Darlledwyd yr oedfa gyntaf yn y gyfres o saith o oedfaon ar Chwefror 25 dan arweiniad y Parchedig Elwyn Jenkins, Llanbedr-pont-Steffan, yn pregethu ar y thema; O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.
Gellir gwrando ar yr oedfaon ar wefan Crefydd BBC Cymru'r Byd unrhyw adeg yn ystod yr wythnos wedyn a darllen y bregeth am gwrando arni am gyfnod amhenodol wedi hynny trwy glicio isod.
Chwefror 25: O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd Y Parchedig Elwyn Jenkins, Llanbedr Pont Steffan Cliciwch
Mawrth 4: O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud. Y Parchedig Carl Williams, Abergwaun. Cliciwch
Mawrth 11: Heddiw byddi gyda mi ym mharadwys. Y Parchedig Meirion Thomas, Casnewydd. Cliciwch
Mawrth 18: Sul y Mamau Wraig, dyma dy fab - dyma dy fam di. Y Parchedig Ganon Mary Stallard, Llangollen. Cliciwch
Mawrth 25: Y mae arnaf syched. Yr Esgob Regan, Wrecsam. Cliciwch
Ebrill 1: Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael? Y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Aberystwyth. Cliciwch Cliciwch a dewis "Oedfa'r Bore" i wrando ar yr oedfa.
Ebrill 6: Gwener y Groglith. Gorffennwyd. Y Gwir Barchedig Jeffrey John, Deon St Albans Cliciwch
Oedfa'r Bore -11:30 bob Sul
 |  |