| Gwneud Pry Copyn/Corryn
Bydd angen:
- Darn o gerdyn
- Sticeri
- Papur lliw neu peniau ffelt/craeonau
- Siswrn diogel
- Tâp gludiog
Roedd Jake wrth ei fodd yn gwneud corryn, neu bry copyn? Os hoffet wneud un tebyg, gelli di ddysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
1. Y peth cynta' fyddi di ei angen yw darn o gerdyn wedi ei dorri yn gylch mawr.
2. Torri llinell syth o ymyl dy gylch i'r canol.
3. Gwneud siâp côn bach gyda''r cerdyn a selio'r côn i lawr ar un ochr gyda thâp gludiog. Gwna'n sicr dy fod yn gadael twll bach ar y brig.
4. Plyga'r côn yn ei hanner.
5. Ac wedyn yn ei hanner eto.
6. Ac unwaith eto, gan wneud cyfanswm o dri phlygiad.
7. Wedyn, lliwio dau saeth ar y siâp triongl rwyt ti wedi ei wneud.
8. Torri ar hyd y llinellau rwyt ti wedi eu tynnu.
9. Agor y siâp allan phlyga'r coesau yn y canol er mwyn gwneud pengliniau'r pry copyn neu'r corryn.
10. Rhoi sticeri bach ymlaen i wneud y llygaid.
11. Lliwio'r llygaid i mewn gyda dotiau bach. Wedi gorffen!
|