bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Neidr Sbeiral


    Bydd angen:
  • Plât plastig neu bapur
  • Cerdyn
  • Glud
  • Pensil/pen ffelt/craeon
  • Siswrn diogel
  • Gliter
  • Cortyn


  • Os hoffet wybod sut wnaeth y Tweenies neidr sbeiral gelli di ddysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!


1. Rhoi'r plât plastig neu bapur ar y darn o gerdyn a lliwio o amgylch yr yml. Torri'r cylch allan.

2. Tynnu llun sbeiral ar y cylch gyda phen y sbeiral yn gorffen ar ymyl y cylch.

3. Torri ar hyd y llinell rwyt ti wedi ei gwneud.

4. Gorchuddio'r sbeiral mewn glud.

5. Taenu gliter ar y sbeiral. Wedyn rhoi twll yng nghanol y sbeiral a rhoi cortyn drwyddo, gan ei glymu gyda chwlwm.

6. Nawr mae gen ti neidr sbeiral sgleiniog!


amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now