Datblygiadau newydd: Rhaid ystyried newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
tirlithriadFfynhonnell y llun, Christian Pilling
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tirlithriad difrifol yn Nefyn ym mis Ebrill eleni

GanIola Wyn
Gohebydd BBC Cymru

Bydd newid hinsawdd yn ffactor wrth asesu unrhyw gynlluniau gan ddatblygwyr yn y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.

Am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol, sydd yn dangos lefelau risg presennol, yn ogystal â'r risg a achosir gan newid hinsawdd yn y dyfodol.

Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15, yw enw'r cyngor polisi cynllunio newydd.

Bydd yn llywio cynlluniau datblygu lleol yn y dyfodol, a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.

11.3% mewn perygl llifogydd

Bydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, adrannau cynllunio awdurdodau lleol a datblygwyr.

Mae'r map newydd, dolen allanol yn cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Caiff ei ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn ym misoedd Mai a Thachwedd i adlewyrchu'r data diweddaraf ar beryglon llifogydd.

Ar hyn o bryd, mae'r map newydd yn dangos fod 11.3% o dir Cymru mewn perygl o ddioddef llifogydd o afonydd neu'r môr.

Roedd y map blaenorol a oedd yn asesu'r risg presennol yn unig, heb ystyried newid hinsawdd yn nodi fod 9.86% o'r tir mewn perygl.

Bydd y drefn newydd o asesu yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.

Map llifogyddFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos pa ardaloedd sy'n wynebu'r risg fwyaf o lifogydd o afonydd a'r môr

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y bydd "ardaloedd lle mae'r risg yn fach ar hyn o bryd yn dod yn agored i lifogydd wrth i'n hinsawdd barhau i newid".

"Mae'r cynllun hwn yn arwyddocaol gan ei fod yn caniatáu i ni edrych i'r dyfodol yn ogystal ag asesu'r sefyllfa nawr ac yn y gorffennol."

Mae TAN 15 yn nodi na ddylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer cartrefi, y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, heb amddiffynfeydd llifogydd cryf.

Os byddai awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cymeradwyo unrhyw gynllun yn groes i'r cyngor hwn, byddai gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu a byddai modd iddynt benderfynu ar y cais yn uniongyrchol.

Llifogydd Pontypridd Chwefror 2020

Ychwanegodd Julie James: "Mae beth arferai fod yn achosion prin o lifogydd bellach yn dod yn fwy fwy cyffredin yn anffodus, gyda'r hinsawdd yn newid o'n cwmpas.

"Ac felly yr hyn ry'n ni'n ceisio ei wneud ydy gwarchod unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, naill ai drwy gryfhau'r amddiffynfeydd llifogydd neu trwy sicrhau fod datblygiadau y tu hwnt i ardaloedd sydd mewn perygl.

"Wrth gwrs, fe fyddwn yn monitro'r sefyllfa'n rheolaidd, ac mae gennym ddigonedd o dir yng Nghymru y gellir ei ddatblygu.

"Nod y cynllun hwn yw cyfeirio datblygiadau i'r mannau cywir."

Pynciau cysylltiedig

Trending Now