Y ddwy sy'n newid diwylliant galar i bobl ifanc

Buddug a ManonFfynhonnell y llun, Troedio Tonnau
Disgrifiad o’r llun,

Buddug a Manon

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes o ogledd Cymru wedi penderfynu rhoi gofod creadigol i bobl ifanc fynegi eu galar ar ôl cael eu heffeithio eu hunain.

Roedd Buddug Watcyn Roberts, 25 oed, a Manon Gwynant, sy'n 30, yn gweithio ar gynllun sy'n rhoi profiadau celfyddydol i bobl ifanc pan sylweddolon nhw bod pobl ifanc sy'n galaru angen mwy o gefnogaeth.

Fe sefydlodd Manon a Buddug brosiect Troedio Tonnau yn ôl yn 2024.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi ymweld ag ysgolion yng ngogledd Cymru i roi sesiynau, yn cynnal nosweithiau cymdeithasol yn y gymuned, ac ar fin mynd i Ganada er mwyn dysgu am 'wersylloedd galar'.

Gweledigaeth

Yn ôl Manon Gwynant, "cynnig rhywbeth tu allan i'r cwnsela traddodiadol" yw'r bwriad.

Eglurai: "Wnaethon ni sefydlu Troedio Tonnau i ddechre yn 2024 ac oedd o'n seiliedig ar brofiad personol yn y teulu.

"O'n i wedi colli fy nghefnder i'n reit sydyn ac oedd ganddo fo ddwy o ferched ifanc ac oeddan ni fel teulu'n edrych am gefnogaeth ar eu cyfer nhw.

"Doedd dim byd yn y Gymraeg tu allan i'r cwnsela traddodiadol a doedd hynna ddim yn gweithio iddyn nhw."

Mae Buddug, a gollodd ffrind coleg y llynedd yn medru uniaethu.

"Mewn grŵp ffrindiau o 11 doedd yna nunlla i ni drafod y peth. Oeddan ni gyd yn mynd drwy'r un peth ond doedd yna neb isio dod â fo i fyny."

Rhoi rhyddid i bobl ifanc fynegu eu hunainFfynhonnell y llun, Troedio Tonnau
Disgrifiad o’r llun,

'Cynnig rhywbeth gwahanol i gwnsela traddodiadol'

Ac mae'r ddwy'n diolch i raglen Blas gan Pontio am roi'r hyder a'r gefnogaeth iddyn nhw wireddu Troedio Tonnau.

Fel dwy cyn-diwtor dan hyfforddiant i raglen Blas bu'r ddwy'n cysgodi tiwtoriaid oedd yn gweithio gyda phrosiectau llesiant pobl ifanc gan ddefnyddio'r celfyddydau.

"Fe gawson ni hefyd ddealltwriaeth o sut i ddechrau a rhedeg prosiect; o'r gwaith cynllunio a marchnata i'r grantiau sydd ar gael," eglurai Manon.

'Nid therapi ond mae'n therapiwtig'

O gynnal sesiynau i bobl ifanc yn y gymuned ym Mlaenau Ffestiniog, Llangefni a Chaernarfon i ymweld ag Ysgol Brynrefail yn Llanrug ac Ysgol Friars ym Mangor, mae annog pobl ifanc i fynegi eu galar drwy'r celfyddydau yn rhan fawr o ethos Troedio Tonnau.

Eglurai Buddug: "'Mi ydan ni'n dechrau ein sesiynau gyda sgyrsiau dros baned a snacs, yna cychwyn gyda rhywbeth positif, mynd i mewn i dasg neu weithgaredd sy'n fwy penodol am alar a gorffan ar rhywbeth ysgafnach.

"Enghraifft o weithagaredd sy'n gweithio'n dda ydi 'neud outline o gorff rhywun a siarad am lle mae'r galar yna'n brifo'n gorfforol.

"Mi fydd pob person ifanc yn cael llyfr sgrap hefyd ar gychwyn y sesiynau ac mae'r pethau 'dan ni'n 'neud wedyn yn mynd i'r llyfr yna. Mae o'n rwbath personol iddyn nhw.

"Dydan ni ddim yn cynnig cwnsela o gwbl, dydi o ddim yn therapi ond mae o'n therapiwtig."

Un o sesiynau Troedio TonnauFfynhonnell y llun, Troedio Tonnau
Disgrifiad o’r llun,

Un o sesiynau Troedio Tonnau

Ychwanegai Manon: "Mae celf a 'sgwennu yn gweithio'n dda ond weithiau all y gweithgaredd fod yn greu TikTok. Does yna ddim rheol beth ydi'r gelfyddyd, a does yna ddim pwysau ar neb i rannu dim byd ond mae'n rhoi gwahanol tŵls iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw'n dymuno.

"Un ymateb diweddar gan berson ifanc oedd 'Dach chi jest yn gwrando a 'dach chi ddim yn 'neud i ni deimlo fe aliens pan 'dan ni'n siarad am y petha' ma.' Oedd hynny'n hyfryd i glywed."

Newid agweddau

Ar ôl ymchwilio i ddarpariaeth gwledydd eraill i bobl ifanc sy'n galaru, fe bendronodd Buddug a Manon ar ddiwylliant galar yma yng Nghymru, a sylweddoli ei fod yn ddiwylliant caeedig.

Dyna sydd wedi eu hannog i gynnal nosweithiau yn y gymuned ar gyfer pobl 18-35 oed hefyd.

"Wnaethon ni gynnal noson gomedi yng Nghaernarfon rai wythnosau yn ôl gyda Caryl Burke a Hywel Pitts," eglurai Buddug

"Rhwng setiau roedd gynnon ni weithgaredda' ysgafn yn ymwneud efo galar fel cornal gofio ac wbath yn y diwadd oedd yn syniad lyfli gan Manon; seeded paper i 'sgwennu atgofion neu unrhyw beth yn ymwneud efo person oeddan ni'n cofio.

"Oeddan ni'n gallu mynd adra wedyn a phlannu rheina i flodau gwyllt dyfu. Y sentiment yna bo' chdi'n tyfu efo galar felly oedd hwnna yn rwbath rili neis."

troedio tonnauFfynhonnell y llun, Troedio Tonnau

Pam cyfuno noswaith gomedi gyda chyfle i alaru a chofio am anwyliaid?

Manon sy'n egluro: "Fe ddywedodd un person ifanc wrthon ni ei fod yn defnyddio comedi i ddelio gyda galar. Trwy gael Caryl a Hywel i ddefnyddio eu profiadau eu hunain yn eu setiau roedd yn agor y stafell allan, oedd y lle yn teimlo mor vulnerable ac yn rili positif.

"Yn dawel bach oedd pawb yn cefnogi ei gilydd.

"Mae'n anodd cael pobl i ddod i sesiynau'n y gymuned, mae'n broject hir-dymor achos mae angen newid cymdeithas a'r ffordd 'dan i'n meddwl am alar, marwolaeth ac am drafod emosiynau."

Gwersylloedd galar

Yn eu hymchwil mae Manon a Buddug wedi darganfod bod gwersyll galar (grief camp) yn cael ei gynnig i bobl ifanc sydd wedi colli aelod agos o'r teulu yn America a Chanada.

Buddug sy'n egluro'r cysyniad:

"Wnawn ni bob dim o fewn ein gallu ni mewn cymdeithas i osgoi galar, ond maen nhw gymaint fwy agored.

"Byddwn ni'n ymweld â grief camp yng Nghanada i ddysgu ohonyn nhw. Maen nhw'n ofod i gysylltu efo pobl eraill sydd wedi wynebu colled ac i fwynhau gweithgareddau.

"Rydan ni wedi partneriaethu efo'r Urdd yn barod a gobeithio y byddwn ni'n gallu cynnal penwythnosau preswyl yng Nglan-llyn gan ddod â phobl ifanc yng ngogledd Cymru sydd wedi cael colled at ei gilydd."

Manon yn paratoi ar gyfer sesiwn Troedio Tonnau llawn danteithionFfynhonnell y llun, Troedio Tonnau
Disgrifiad o’r llun,

Manon yn paratoi ar gyfer sesiwn Troedio Tonnau llawn danteithion

Ac mae Manon yn gyffrous am gynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n galaru trwy'r Gymraeg.

"Mae yna gefnogaeth galar allan yna ond mae o'n bennaf yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Sasneg hyd yn oed yng Nghymru.

"Mae Troedio Tonnau am greu deunyddiau, adnoddau a gofod sy'n teimlo'n Gymreig ac yn Gymraeg o'r cychwyn cyntaf. Teilwra ar gyfer pobl ifanc gogledd Cymru ydi'r nod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now