
Lowri Howie gyda'i mam, Einir - mae'r ddwy wedi treulio amser yn Awstria yn ddiweddar
"Dwi'n gobeithio fydda i yna yn y dyfodol - dwi wrth fy modd yn gwylio nhw'n sgïo."
I lawer o blant 12 oed, gwylio Gemau Olympaidd y Gaeaf ar y teledu yw'r agosaf y down i brofi gwefr y campau - ond i un ferch dalentog, mae'n freuddwyd gwirioneddol.
Mae Lowri Howie, o Harlech yng Ngwynedd, wedi bod yn sgïo ers ei bod hi'n bedair oed, gan ymarfer ei sgiliau ar lethr artiffisial Llandudno rhwng ymweliadau â'r Alpau.
Yr wythnos hon mae wedi serennu unwaith eto, gyda buddugoliaethau yn erbyn rhai o sgiwyr gorau Prydain yn ei grŵp oedran hi ym Mhencampwriaethau Alpanaidd Lloegr allan yn Bormio, Yr Eidal.
Mae'r llwyddiant diweddaraf yn dod fel cryn falchder i Lowri wedi'r ddwy flynedd ddiwethaf, gyda Covid yn golygu cau cyfleusterau chwaraeon adref a chyfleoedd i deithio dramor yn brin.
Bu'n rhaid addasu ei hyfforddiant yn sydyn, gyda beicio un olwyn, ton-fyrddio, jyglo a neidio bocs i gyd yn dod yn rhan o'r drefn tan bod modd dychwelyd i'r llethrau eto.

Lowri Howie ar y llethrau
"Roeddwn i 'chydig yn drist pan doeddwn i methu mynd, ond nes i gario 'mlaen efo ymarfer, a rhoi pethau ar Instagram i ddangos i bobl be' o'n i'n 'neud," meddai Lowri.
"Pan 'naeth y llefydd agor fyny eto ro'n i'n reit hapus i weld fy ffrindiau a hyfforddwyr eto, a bod 'nol ar yr eira - roedd o'n teimlo'n grêt."
Academi sgïo
Dros yr wythnosau diwethaf mae Lowri a'i mam, Einir, wedi bod yn Awstria, ble bu'n ymarfer mewn academi sgïo wrth baratoi ar gyfer y bencampwriaeth.
"Dwi'n mwynhau ei gwylio hi'n sgïo, ond mae'n gallu bod yn reit nerfus hefyd," meddai Einir, fu'n gweithio mewn gwersylloedd sgïo pan oedd hi'n ifanc ac felly wedi ysbrydoli cariad Lowri at chwaraeon eira.
"Doedden ni byth yn meddwl cwpl o flynyddoedd yn ôl y byddai hi'n ymarfer yn Awstria a rŵan yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Alpanaidd, felly 'dan ni jyst yn cymryd pethau cam wrth gam a gweld beth sy'n digwydd."
Yn ôl yn Llandudno, mae ei hyfforddwyr yn ffyddiog bod ganddi ddyfodol mawr yn y gamp.
"'Dan ni'n lwcus fod genna ni dri aelod o garfan Cymru yma efo ni," meddai Sion Salisbury, hyfforddwr gyda Chlwb Chwaraeon Eira Gogledd Cymru.

Lowri yn dathlu ar y podiwm gyda'r ddraig goch
"Mae Lowri'n un ohonyn nhw, a hi ydy un o'r raswyr gorau am ei hoed ym Mhrydain. Mae ganddi dalent, mae hi'n sgïwr naturiol, mae'n gweithio'n galed, ac mae ganddi'r ethos iawn.
"Fe ddysgodd Dave Ryding [sgïwr cyntaf Prydain i ennill yng Nghwpan y Byd] i sgïo ar oed tebyg i Lowri ar lethr sych yn Pendle.
"Os mae hi'n fodlon 'neud y gwaith caled, does dim rheswm pam allith hi ddim [ei efelychu]."
Mae ei ffrindiau, gan gynnwys Agatha sydd hefyd yng ngharfan Cymru, yn cytuno.
"Bydd hi bendant yno! Pan oedden ni yn y 'minis' roedden ni wastad yn gwneud popeth gyda'n gilydd, dilyn ein gilydd rownd bob man."
Mae Molly hefyd yn un o'r grŵp elît sy'n ymarfer efo Lowri yn Llandudno, ac yn llawn canmoliaeth am ei thalent ac am y cyfleuster sydd ganddyn nhw i'w ddefnyddio.
"'Dan ni wastad yn cefnogi ein gilydd, 'dan ni fel un teulu mawr. Mae hi'n grêt yn ei grŵp oed, hollol amazing."
Y ras fawr
Bydd Lowri'n taclo ei ras olaf yn y gystadleuaeth ddydd Gwener, ar ôl ennill yn barod yn y slalom ddydd Mercher a'i hoff ras, y giant slalom, ar y diwrnod agoriadol.
"Dwi wrth fy modd efo'r giant slalom achos mae mwy o gap rhwng y polion felly mae'n haws mynd drwyddyn nhw - ti'n gallu mynd yn gyflym iawn a dwi wrth fy modd yn mynd yn gyflym!"

Lowri yn dathlu buddugoliaeth yn y giant slalom
Mae hi eisoes wedi cyfarfod rhai o sêr mwyaf tîm sgïo Prydain - gyda Charlie Guest, yr Albanes sydd hefyd wedi rasio yng Nghwpan y Byd, yn canmol Lowri am ei slalom.
Mae'n dweud bod hynny wedi ei sbarduno hi'n fwy i geisio efelychu eu llwyddiannau nhw a chyrraedd uchelfannau'r gamp yn y dyfodol.
"Dwi'n gobeithio bydd hynny'n digwydd rhyw ddydd, a dwi'n gobeithio fydd rhai o fy ffrindiau yn cystadlu efo fi hefyd.
"Bysa fo'n wych taswn i'n gallu rasio efo pobl fel Alex Tilley [sgïwr o'r Alban sydd wedi bod i'r Gemau Olympaidd] yn y dyfodol."
Yn y cyfamser mae'n diweddaru ei ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda lluniau a fideos o'i sgïo - y da a'r drwg.
"'Dach chi'n disgyn lot, ond dwi'n cario 'mlaen 'neud o a gwella bob tro.
"Felly os oes unrhyw blant eraill yn gwrando, os 'dach chi'n disgyn, peidiwch rhoi fyny, mae mam a dad a'ch ffrindiau yna i helpu, ac os 'dach chi'n cario 'mlaen 'neud o 'newch chi fynd yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2020
