Teyrnged i ferch 'garedig a gofalgar' fu farw mewn gwrthdrawiad

Demi EdmundsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

"Gobeithio ei bod hi yn y nefoedd mewn rhywle gwell," meddai brawd Demi Edmunds

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch 17 oed o Gil-y-coed a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân wedi talu teyrnged iddi.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i adroddiadau brynhawn Iau bod gwrthdrawiad rhwng tri char a cherddwr ar yr A4042.

Bu farw Demi Edmunds yn y fan a'r lle a dywedodd Heddlu Gwent fod ei theulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Yn nheyrnged y teulu, dywedodd ei brawd mai "Demi oedd y chwaer orau y gallwn i erioed fod wedi gofyn amdani. Roedd hi'n ddoniol, yn garedig ac yn ofalgar".

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau ac maent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau dash-cam perthnasol, i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd brawd Demi Edmunds ei fod ef a hi yn "agos iawn".

"Roedd hi fel ffrind gorau i mi ac yn gallu ymddiried ynddi gyda phopeth ac unrhyw beth, ond dydy hi ddim gyda ni bellach.

"Gobeithio ei bod hi yn y nefoedd mewn rhywle gwell," meddai.

Ychwanegodd ei theulu ei bod "yn ferch, wyres, chwaer, cyfnither a nith annwyl. "Roedd Demi wrth ei bodd â'i ffrindiau ac roedd pawb yn ei charu".

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn medru galaru.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now