£214m i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd wrth i Gymru droi'n wlypach

  • Cyhoeddwyd
storm 2017Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae amddiffynfeydd fel yn Hen Golwyn wedi gorfod cael eu cryfhau oherwydd effaith stormydd cyson

GanSteffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Taclo "gorbryder hinsawdd" yw un cymhelliad ar gyfer clustnodi mwy o gyllid nac erioed o'r blaen ar amddiffynfeydd llifogydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James AS bod angen i gymunedau deimlo'n ddiogel yn wyneb y cynnydd mewn tywydd eithafol.

Mae'r llywodraeth yn bwriadu gwario £214m yn ystod y tair blynedd nesaf ar ei "rhaglen lifogydd fwyaf erioed".

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig dyw'r mesurau ddim yn mynd yn ddigon pell.

Mae Cymru - sydd eisoes yn adnabyddus am gawodydd cyson wrth gwrs - yn mynd yn lle gwlypach.

Fe gymharodd dadansoddiad diweddar gan y Swyddfa Dywydd dau gyfnod 30 mlynedd o hyd (1961-1990 a 1991-2020) gan ganfod bod glawiad blynyddol wedi cynyddu dros 10% mewn rhannau o'r wlad.

Julie James AS
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Julie James bod angen i gymunedau deimlo'n ddiogel

Mae lefel y môr hefyd yn codi wrth i gefnforoedd y byd gynhesu, gan waethygu'r risg o lifogydd arfordirol ac erydiad.

Ym mis Chwefror, ddyddiau cyn i gyfres o stormydd garw daro'r wlad, fe rybuddiodd y rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru bod llifogydd fyddai'n torri record yn mynd i ddod yn "realiti newydd" i gymunedau.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms James bod y rhaglen llifogydd newydd yn anelu i "wneud i bobl deimlo bod gennym ni gynllun ar gyfer y dyfodol sy'n golygu nad oes rhaid iddyn nhw bryderu".

"Ry'n ni'n gweld cyfnodau lle mae'r llanw yn uchel ofnadwy, mwy o stormydd gwael felly mae'n rhaid i ni sicrhau o ddifri bod gennym ni amddiffynfeydd llifogydd da fel nad yw pobl yn wynebu risg cyson yn eu tai a'u busnesau a bod modd parhau i fyw a gweithio yn ein dinasoedd arfordirol."

Mae'r rhan fwyaf o brif ardaloedd trefol Cymru wedi'u lleoli ar aberoedd, ychwanegodd.

Aber Castell-neddFfynhonnell y llun, eswales/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae trefi fel Castell-nedd wedi eu lleoli ger aberoedd

"Mae gennym ni lot o orbryder hinsawdd yn datblygu ymysg disgyblion ysgol ac ati - a ma' hyn ynglŷn â chyhoeddi iddyn nhw bod 'na bethau y gallwn ni wneud i sicrhau nad ydyn nhw'n teimlo fel 'ny."

Drwy Gymru mae un ym mhob wyth cartref - oddeutu 245,000 o adeiladau - mewn perygl o ddioddef llifogydd.

Mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth yn cynnwys £71m o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd newydd y flwyddyn nesaf, gyda'r llywodraeth yn dweud y bydd hyn yn helpu gwerth 14,500 o adeiladau.

Bydd awdurdodau lleol yn medru ceisio am hyd at £225,000 yr un o gyllid refeniw ychwanegol hefyd ar gyfer costau eu gwaith atal llifogydd o ddydd i ddydd.

A bydd cyllideb CNC yn cynyddu £1.5m.

Llwybr cerdded yn Y Drenewydd, Powys, wedi ei orchuddio'n llwyr gan ddŵrFfynhonnell y llun, Maddie Ottaway
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr cerdded yn Y Drenewydd, Powys, wedi ei orchuddio'n llwyr gan ddŵr yn dilyn glaw trwm

Wrth werthuso ei ymateb i stormydd mawr 2020, arweiniodd at y llifogydd gwaetha yng Nghymru ers 40 mlynedd, roedd y corff wedi galw am gyllid i gyflogi hyn fyddai'n cyfateb i 60-70 o swyddogion llifogydd llawn amser.

Yn y cyfamser, dywedodd Ms James ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno rheolau cynllunio newydd fyddai'n gorfodi datblygwyr i ystyried heriau newid hinsawdd.

Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno rheolau tebyg oedd fod i ddod i rym ym mis Rhagfyr, ond ar ôl i rai cynghorau gwyno eu bod yn cael eu rhuthro mae hynny wedi newid i Fehefin 2023.

Mae cynnydd mewn buddsoddiad ar gyfer rheoli llifogydd ac erydiad arfordirol yn rhan o gytundeb cydweithio llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.

Promenâd Cayley
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau eisoes ar droed i gryfhau amddiffynfeydd yn Llandrillo yn Rhos, sir Conwy

Dywedodd Sian Gwenllian AS, aelod dynodedig Plaid Cymru ar gyfer y cytundeb, y byddai'n "gwneud gwahaniaeth bwysig" a'i fod yn ffrwyth cydweithio er mwyn "wynebu'r heriau sylweddol sy'n cael eu hachosi gan yr argyfwng hinsawdd".

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ry'm ni wedi gweld yr effaith gwirioneddol arswydus y gall llifogydd ei gael ar fywydau pobl, ac yn ystod y tair blynedd nesaf ry'm ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn rheoli ac atal llifogydd."

'Angen gwneud llawer mwy'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders MS bod "angen gwneud llawer iawn mwy a chyflwyno polisïau blaengar".

"Dwi'n poeni na fydd yr arian newydd yma ar gyfer CNC yn mynd yn ddigon pell i ymateb i'r cynnydd yn nyletswyddau'r corff.

"Beth sydd angen ar Gymru yw ymateb sydd wedi'i integreiddio i lifogydd drwy sefydlu Asiantaeth Llifogydd Cenedlaethol allai weithio gyda chymunedau lleol i gydlynu gwaith atal llifogydd yn ogystal ag ymchwiliadau annibynnol i achosion," meddai.

"Tra'i bod hi'n iawn i'r Llywodraeth Lafur daflu arian at broblemau, mae'n ffaith bod angen gwneud llawer iawn yn fwy i wir gymryd newid hinsawdd o ddifri."

Pynciau cysylltiedig

Trending Now