Ydy Syr Anthony Hopkins yn Nolgellau?

Ydych chi wedi gweld Syr Anthony Hopkins yn crwydro strydoedd Dolgellau?
Disgrifiad o’r llun,

Ydych chi wedi gweld Syr Anthony Hopkins yn crwydro strydoedd Dolgellau?

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae ambell un o drigolion Dolgellau yn dweud eu bod wedi gweld Syr Anthony Hopkins yn cerdded o gwmpas y dref, yn ôl y dirprwy-Faer Nia Wyn Evans.

Ac mae hynny'n bosib iawn gan bod y ffilm A Visit to Grandpa's yn cael ei saethu yno ar hyn o bryd fydd yn serennu'r Cymro ac un o fawrion Hollywood.

Fe anfonodd Dean Cummings a Reece Vancheri, rheolwyr lleoliad y ffilm sy'n cael ei gyfarwyddo gan D. J. Caruso, lythyr diweddar at breswylwyr y dref yn eu hysbysu bod ffilm sydd wedi ei ysbrydoli gan un o straeon byrion y bardd o Abertawe, Dylan Thomas, yn cael ei saethu yno ar 15-16 Ebrill.

Mae'r bont yn Nolgellau wedi bod ar gau am rai cyfnodau i'r criw ffilmioFfynhonnell y llun, Tudalen Facebook Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yn Nolgellau wedi bod ar gau am rai cyfnodau er mwyn ffilmio'r cynhyrchiad

Er bod rhai lonydd, y sgwâr a'r Bont Fawr wedi bod ar gau am gyfnodau, dywedodd dirprwy-Faer Dolgellau, Nia Wyn Evans ar raglen Dros Frecwast:

"Mae'n debyg bod ni gyd yn llawn bwrlwm yma ac yn falch iawn bod y tîm cynhyrchu wedi dewis ein tref bach, bendigedig ni yma yn Nolgellau.

"Mi oedd y sgwâr wedi ei chau, mi oedd yna ambell i ffordd wedi ei chau yma ond rydan ni wedi ymdopi yn iawn ac yn falch o'u cael nhw yma.

"Mae wedi bod yn agoriad llygad i bawb yn yr ardal."

Syr Anthony HopkinsFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Syr Anthony Hopkins

"Mae yna ambell un wedi gweld Anthony Hopkins, dwi'n bersonol heb ei weld o ond dwi wedi bod yn cerdded o amgylch y bwrlwm a dwi jest yn gallu gweld pa mor galed mae'r cast i gyd yn gweithio a phawb yn y tîm cynhyrchu.

"Mae hi fel bod yng nghanol Hollywood yma a deud y gwir. 'Dan ni wrth ein boddau."

'Nôl yn 2025 fe ddaeth criw ffilmio y ddrama a'r thriller Deadpoint i saethu yn Nolgellau.

Beth sydd mor apelgar am Ddolgellau fel lleoliad ffilmiau a chyfresi teledu?

Dywedodd Nia: "Mae'r math o garreg sydd ar ein hadeiladau ni yn denu y criw ffilmio yma.

"Gobeithio hefyd y bydd yn denu fwy o ymwelwyr i'r dref, i fwynhau ein treftadaeth a'n hanes ni, a bod Dolgellau yn ffenast siop i'r ardal hyfryd yma."

Fe anfonodd rheolwyr lleoliad y ffilm fap gyda'u llythyr i brewsylwyr yn dangos pa lonydd fyddai ar gau ar 15 ac 16 Ebrill Ffynhonnell y llun, Criw cynhyrchu A Visit to Grandpa's
Disgrifiad o’r llun,

Fe anfonodd rheolwyr lleoliad y ffilm fap gyda'u llythyr i brewsylwyr yn dangos pa lonydd fyddai ar gau ar 15 ac 16 Ebrill

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now